Prif Atyniadau
CYNGOR: Cliciwch neu cyffyrddwch â man sydd o ddiddordeb i ddarganfod mwy am yr atyniad hwnnw. Cliciwch neu cyffyrddwch eto i’w gau. I lwytho map arall neu leoliad arall, dewiswch gategori o’r ddewislen i ddangos y mannau mwyaf poblogaidd ar gyfer y categori hwnnw.

CAMLAS MYNWY AC ABERHONDDU
Mae Camlas Mynwy ac Aberhonddu yn ymdroelli am 32 milltir trwy olygfeydd godidog ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, rhwng Aberhonddu a Phont-y-pŵl ac yna ymlaen i Gasnewydd. Mae rhan o Gamlas Mynwy ac Aberhonddu yn pasio trwy Safle Treftadaeth Byd Blaenafon, gan gynnig golygfeydd gwefreiddiol a chofleidio tirnodau diwydiannol niferus ar hyd y daith. Mae yna lwybrau cerdded a beicio hefyd y gall pobl o bob oed eu mwynhau.

GLANFA LLAN-FFWYST
Cysylltai Glanfa Llan-ffwyst Flaenafon at weddill y byd trwy Gamlas Mynwy ac Aberhonddu. Roedd angen camlesi i gludo cynnyrch diwydiannol trwm fel haearn crai, glo a chalchfaen. Mae yna warws anferth yn Llan-ffwyst ar hyd y lanfa, a byddai’r warws wedi storio’r cynnyrch hyn. Cysylltwyd y lanfa gan inclein serth tuag at dramffordd Hill sy’n ymdroelli o amgylch Mynydd Blorens i Bwll-Du. Yma, mae’r dramffordd yn torri trwy’r mynydd at y gweithfeydd haearn ym Mlaenafon. Adeiladwyd inclein diweddarach dros y mynydd.

LLYNNOEDD GARN
Roedd Llynnoedd Garn yn arfer bod yn ardal a orchuddiwyd â thomenni rwbel a hen weithfeydd glo, ond yn dilyn cynllun adfer tir sylweddol, fe’i agorwyd yn swyddogol yn 1997 fel ardal hardd i drigolion ac ymwelwyr. Mae’n ymestyn ar draws 40 hectar a gyda’i llynnoedd a’i glaswelltiroedd mae’n darparu cynefin amrywiol a thir bridio i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Cymaint felly ei bod bellach wedi cael ei dynodi’n Warchodfa Natur Leol.
.jpg)
PWLL PEN-FFORDD-GOCH
Yr enw Saesneg ar Bwll Pen-ffordd-goch yw ‘Keeper’s Pond’ neu ‘Forge Pond’, ac mae wedi’i leoli ger Pwll-Du, ar y bryn uwchlaw Blaenafon. Adeiladwyd y pwll yn gynnar yn y 19eg ganrif i ddarparu dŵr ar gyfer Ffwrn Garn Ddyrys. Cafodd yr enw Saesneg ‘Keeper’s Pond’ am fod ciper gweunydd y grugieir yn byw mewn bwthyn gerllaw. Heddiw, mae’n fan o harddwch ac yn lle delfrydol i ddechrau taith gerdded ar Fynydd Blorens.

RHEILFFORDD DREFTADAETH BLAENAFON
Y Rheilffordd Dreftadaeth yw’r rheilffordd lled safonol uchaf i’w chadw yng Nghymru a Lloegr. Mae’n ymlwybro heibio i Lynnoedd darluniadol Garn ac yn cynnig golygfeydd gwefreiddiol o’r Dirwedd Ddiwydiannol. Ychwanegwyd gorsafoedd newydd yn Big Pit a Lefel Uchaf Blaenafon, gan gynnig cyfle i ymwelwyr ddefnyddio’r trên i deithio o amgylch rhai o’r prif atyniadau sy’n rhan o’r Safle Treftadaeth Byd.
Amserau Agor: Penwythnosau a Gwyliau Banc (Pasg tan fis Medi) gyda gwasanaethau arbennig adeg Calan Gaeaf a’r Nadolig.
Da chi, porwch y wefan am yr wybodaeth ddiweddaraf a digwyddiadau arbennig.
Prisiau Tocynnau: rhowch glic ar www.pontypool-and-blaenavon.co.uk https://www.bhrailway.co.uk/ am y prisiau diweddaraf.
Cyfeiriad: Furnace Sidings, Blaenafon, NP4 9SF
Ffôn: 01495 792263
E-bost: info@pbrly.co.uk
Gwefan: https://www.bhrailway.co.uk/
.jpg)
GWAITH HAEARN BLAENAFON
Gwaith Haearn Blaenafon yw’r gwaith haearn gorau yn y byd sydd ar gadw o’r 18fed ganrif! Dewch i ymweld â bythynnod y gweithwyr a Siop y Cwmni i gael blas ar fywyd yn ystod y Chwyldro Diwydiannol.
Amserau Agor: Dydd Llun – Dydd Sul 10yb-5yp (Ebrill - Hydref) Dydd Gwener a Dydd Sadwrn 9:30yb-4yp a Dydd Sul 11yb-4yp (Tachwedd - Mawrth) Mynediad am Ddim
Cyfeiriad: North Street, NP4 9RN
Ffôn: 01495 792615
E-bost: blaenavonironworks@wales.gsi.gov.uk
Gwefan: www.cadw.wales.gov.uk

AMGUEDDFA GYMUNEDOL BLAENAFON AC AMGUEDDFA CORDELL
Dewch i ddarganfod mwy am waith Alexander Cordell, awdur un o’r llyfrau sydd wedi gwerthu orau ar draws y byd, Rape of the Fair Country, yn Amgueddfa Cordell. Mae’r amgueddfa hefyd yn drysorfa o gofnodion o orffennol Blaenafon. Os ydych chi’n ymchwilio i’ch coeden deulu, da chi peidiwch â cholli’r cyfle i ymweld â’r amgueddfa!
Amserau Agor Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau, Dydd Gwener (10yb-3:30yp), Dydd Sadwrn (10yb-1yp) Mynediad - £1.50 i oedolion, mynediad am ddim i blant
Cyfeiriad: Heol y Llew, NP4 9QA
Ffôn: 01495 790991
E-bost: blaenavoncordellmuseum@hotmail.co.uk

BIG PIT: AMGUEDDFA LOFAOL CYMRU
Ewch i lawr 300tr (90 metr) o dan y ddaear i mewn i bwll glo go iawn gyda chyn löwr i ddarganfod mwy am beryglon, amodau gwaith a phwysigrwydd byd-eang diwydiant glofaol Cymru! Ond cofiwch, os nad ydych am fynd o dan y ddaear mae yna ddigon i’w weld a’i wneud ar y wyneb hefyd!
Amserau Agor Dydd Llun i Ddydd Sul 9:30yb-5yp (teithiau rheolaidd o dan y ddaear 10yb-3:30yp ond ffoniwch i holi am amserau mis Rhagfyr a mis Ionawr) Mynediad am Ddim (£2 o ffi i barcio’ch car)
Cyfeiriad: Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, NP4 9XP
Ffôn: 02920 573650
E-bost: bigpit@museumwales.ac.uk
Gwefan: www.museumwales.ac.uk/en/bigpitt

BRAGDY RHYMNEY
Oherwydd y diffyg glanweithdra yng nghyfnod cynnar y Chwyldro Diwydiannol, roedd yn aml yn fwy diogel yfed cwrw na dŵr. Oherwydd gwres a straen y diwydiant trwm, roedd y gweithwyr hefyd yn hynod o sychedig ac felly mewn trefi a gynhyrchai haearn, fel Blaenafon, roedd yna alw mawr am gwrw! Galwch heibio i Ganolfan Ymwelwyr Bragdy Rhymney i weld sut maen nhw’n creu cwrw go iawn heddiw.
Amserau Agor Dydd Llun – Dydd Sul, 11:30yb-5:30yp Mynediad - £2.50 yr un
Cyfeiriad: - Ystâd Ddiwydiannol Gilchrist Thomas, Blaenafon, NP4 9RL
Ffôn: 01685 722253
E-bost: enquiries@rhymneybreweryltd.com
Gwefan: http://www.rhymneybreweryltd.com

CANOLFAN TREFTADAETH BYD BLAENAFON
Dechreuwch eich ymweliad â Blaenafon yn y Ganolfan Treftadaeth Byd a chewch glywed stori Blaenafon a’i holl atyniadau. Mae yma Ganolfan Croeso hefyd yn ogystal ag oriel a chaffi.
Amserau Agor Dydd Mawrth – Dydd Sul 9yb-5yp (Ebrill - Medi) Dydd Mawrth – Dydd Sul 9yb-4yp (Hydref - Mawrth) Mynediad am Ddim
Cyfeiriad: Church Road, Blaenavon, NP4 9AE
Ffôn: 01495 742333
E-bost: blaenavon.tic@torfaen.gov.uk

NEUADD Y GWEITHWYR
Agorwyd y Neuadd ym mis Ionawr 1895, ac mae’n dyst i hanes cymdeithasol balch Blaenafon. Ariannwyd y gwaith o adeiladu’r neuadd gan Sefydliad y Gweithwyr Blaenafon, a fyddai’n casglu hanner ceiniog yr wythnos o gyflogau ei aelodau. Am ddegawdau, Neuadd y Gweithwyr oedd canolbwynt y gymuned, a chynigiai lyfrgell, gêmau, adloniant a gweithgareddau hamdden. Heddiw mae’n parhau i fod yn ganolbwynt gweithgarwch cymdeithasol.

TREF DREFTADAETH BLAENAFON
Yng nghanol tref Blaenafon, sy’n deillio o’r 19eg ganrif, cewch weld nifer o adeiladau cyhoeddus trawiadol ochr yn ochr ag amrywiaeth o siopau unigryw – dyma’r lle perffaith i brynu anrheg neu ambell beth moethus ar gyfer eich picnic!
Cyfeiriad: Broad Street, Blaenavon, NP4 9NF
Ffôn: 01495 742333
E-bost: blaenavon.tic@torfaen.gov.uk

Prif Atyniadau
Dewch i weld beth sydd gan Flaenafon i’w gynnig, archwilio’r hanes lleol a darganfod pethau i’ch difyrru.
Llwybrau
Beth am archwilio Blaenafon a’r cyffiniau ar droed?
Diwydiant a Masnach
Dewch i ddarganfod popeth am Flaenafon, archwilio’r hen byllau glo a mwyngloddio neu ymweld â’r gweithfeydd haearn.
Bywyd Cymdeithasol
Ewch am dro hamddenol o amgylch prif ardal y dref, pori yn ei siopau a chwrdd â’r bobl leol gyfeillgar.
Tirffurf a Bywyd Gwyllt
Archwiliwch y nodweddion naturiol niferus hwnt ac yma o amgylch Blaenafon.