Llwybrau
CYNGOR: Cliciwch neu cyffyrddwch â man sydd o ddiddordeb i ddarganfod mwy am yr atyniad hwnnw. Cliciwch neu cyffyrddwch eto i’w gau. I lwytho map arall neu leoliad arall, dewiswch gategori o’r ddewislen i ddangos y mannau mwyaf poblogaidd ar gyfer y categori hwnnw.


LLWYBRAU A GWREIDDIAU
Mae Llwybr Llwybrau a Gwreiddiau’ yn daith gerdded gylch fer a hamddenol o tua 5km. Mae’n dechrau ym Maes Parcio Croesfan Llan-ffwyst, ac yn eich tywys ar hyd llwybr hen dramffordd a rheilffordd ac yna ar hyd llwybr tynnu Camlas Mynwy ac Aberhonddu. Mae’r llwybr yn cysylltu pentrefi Llan-ffwyst a Gofilon. Oherwydd eu natur dawel, brydferth mae’n anodd credu eu bod yn ganolfannau cludiant prysur a ffyniannus ar un adeg. Cyn hir byddwch yn gallu lawrlwytho taflen ar gyfer y llwybr hwn.

HANES YR EFAIL
Mae Llwybr Hanes yr Efail yn daith gerdded fer ond gweddol egnïol o tua 4km. Mae’n dechrau ym Maes Parcio Pwll Pen-ffordd-goch ac yn eich tywys ar hyd hen dramffordd i safle Ffwrn Garn Ddyrys. Mae’r safle hwn yn segur ers meitin a bellach wedi gordyfu ond mae’n dal i fod yn un o’r creiriau diwydiannol pwysicaf yn Nhirwedd Ddiwydiannol Blaenafon. Gyda Thomenni Canada yn gefndir i olygfeydd gwefreiddiol ar draws Cwm Llanwenarth, mae’r llwybr yn cynnig cyferbyniadau llwyr i’r llygaid ac yn eich herio i ddychmygu sut brofiad fyddai byw a gweithio dan amodau llym ar y Mynydd Haearn. Cyn hir byddwch yn gallu lawrlwytho taflen ar gyfer y llwybr hwn.

O DOMEN I DRYSOR
Mae Llwybr O Domen i Drysor yn daith gylch fer a hwylus o tua 2.5km sy’n addas i’r teulu cyfan. Bydd y daith hon yn eich tywys trwy ran o’r Safle Treftadaeth Byd sydd wedi’i hadfer yn sylweddol. Cafodd ei thrawsnewid yn dirlun amwynder ac mae yna gyfres o lynnoedd a reolir bellach fel gwarchodfa natur leol yn galon iddi. Mae Rheilffordd Pont-y-pŵl a Blaenafon yn rhedeg ochr yn ochr â’r llwybr ac felly ar ‘ddiwrnodau stêm’ bydd eich taith yn cynnig blas go iawn ar fywyd fel ag yr oedd! Cyn hir byddwch yn gallu lawrlwytho taflen ar gyfer y llwybr hwn.

YMDRECH DYNOL
Mae Llwybr Ymdrech Dynol yn daith gylch egnïol o tua 5km a fydd yn eich tywys i galon Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon. Gan ddechrau o’r maes parcio yng Ngwaith Haearn Blaenafon byddwch yn dringo llethrau’r bryn sydd wedi’i reibio gan weithgarwch cloddio cynnar ac fe fydd taith fer oddi ar y llwybr yn eich tywys at fynedfa i dwnnel tramffordd a adferwyd yn ddiweddar – y twnnel hiraf o’i fath adeg ei adeiladu. Pen y daith yw Simnai Pwll Hill, un o strwythurau eiconig y Safle Treftadaeth Byd. Cyn hir byddwch yn gallu lawrlwytho taflen ar gyfer y llwybr hwn.

LLWYBR Y MYNYDD HAEARN
Mae Llwybr y Mynydd Haearn yn daith gylch 18km (12 milltir) gymedrol i egnïol sy’n eich tywys o amgylch Mynydd Blorens. Mae’r daith, sy’n ymlwybro ar hyd hen dramffyrdd a’r gamlas, yn cofleidio’r cyfoeth o nodweddion hanesyddol a naturiol sy’n gyfrifol am Dirwedd Ddiwydiannol unigryw Blaenafon. Gellir rhannu’r daith yn ddwy a gellir lawrlwytho’r taflenni oddi ar y wefan hon.

GRUG A THREFTADAETH
Mae Llwybr Grug a Threftadaeth yn daith gylch o hyd canolig, tua 6.5km. Mae’n weddol egnïol ac yn dechrau ym Maes Parcio Pwll Pen-ffordd-goch, gan eich tywys o amgylch copa Mynydd Blorens, y ‘Mynydd Haearn’. Cynigia’r llwybr trwy’r rhostir o rug olygfeydd godidog ar draws Dyffryn Wysg a chyfle i weld y Grugieir Coch, y mae’r mynydd yn gartref iddynt – dyma gartref mwyaf deheuol y rhywogaeth hon ar Ynysoedd Prydain. Cyn hir byddwch yn gallu lawrlwytho taflen ar gyfer y llwybr hwn.

LLWYBR TOMEN COETY
Mae Llwybr Tomen Coety yn daith fer o amgylch hen domen rwbel, a grëwyd o rwbel a dynnwyd o byllau glo lleol. Efallai y bydd y lleoliad hwn yn eich taro fel lle anarferol ar gyfer taith gerdded, ond cewch ddysgu llawer am y bywyd gwyllt, y planhigion a’r cynefinoedd naturiol ar y safle. Mae’r llwybr hefyd yn cynnig golygfa anhygoel o Dirwedd Ddiwydiannol Blaenafon ac yn dangos sut y bu unwaith i ddiwydiant trwm reibio llethrau’r mynydd. Gallwch lawrlwytho taflen ar gyfer y llwybr hwn oddi ar y wefan hon

LLWYBR TREF BLAENAFON
Mae’r daith gylch hon, sy’n dechrau yng Nghanolfan Treftadaeth Byd Blaenafon, yn eich tywys o amgylch Tref Dreftadaeth hanesyddol Blaenafon. Cewch weld llawer o adeiladau pwysig a thrawiadol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a, thrwy hen ffotograffau, gallwch weld sut mae’r dref a’i hamgylchedd lleol, wedi esblygu gydag amser. Mae’r llwybr hwn yn rhan o Ap Blaenavon Digital Passport, sydd ar gael i’w lawrlwytho oddi ar iTunes App Store..

LLWYBR CUDD GER-YR-EFAIL
Mae Llwybr Cudd Ger-yr-efail yn daith gylch fer a hwylus o tua 5km. Cewch eich tywys heibio i Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru ac i mewn i Ger-yr-efail, sef anheddiad o fythynnod teras wedi’u pacio’n dynn, a sefydlwyd yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg i gartrefu gweithwyr y gweithfeydd haearn newydd a’r pwll glo gerllaw. Gan ddechrau wrth Ganolfan Treftadaeth Byd Blaenafon, mae’r llwybr yn rhoi cipolwg ar dwf a dirywiad diwydiannau lleol, a gwaddol y diwydiannau hyn i’r pentref sy’n llwyddo i gadw’i naws o gymuned a’i gysylltiadau cryfion gyda gwneuthurio haearn a dur. Mae’r llwybr hwn yn rhan o Ap Blaenavon Digital Passport, sydd ar gael i’w lawrlwytho oddi ar iTunes App Store.
Prif Atyniadau
Dewch i weld beth sydd gan Flaenafon i’w gynnig, archwilio’r hanes lleol a darganfod pethau i’ch difyrru.
Llwybrau
Beth am archwilio Blaenafon a’r cyffiniau ar droed?
Diwydiant a Masnach
Dewch i ddarganfod popeth am Flaenafon, archwilio’r hen byllau glo a mwyngloddio neu ymweld â’r gweithfeydd haearn.
Bywyd Cymdeithasol
Ewch am dro hamddenol o amgylch prif ardal y dref, pori yn ei siopau a chwrdd â’r bobl leol gyfeillgar.
Tirffurf a Bywyd Gwyllt
Archwiliwch y nodweddion naturiol niferus hwnt ac yma o amgylch Blaenafon.