Llwybrau Cerdded - Hamddenol
Nid yw mynd am dro o amgylch Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon bob amser yn golygu bod rhaid rhoi eich esgidiau cerdded ymlaen a gwisgo sach deithio ar eich cefn - dyma ychydig o lwybrau mwy hamddenol y gall y teulu oll gymryd rhan ynddynt. Efallai eu bod yn hamddenol ond mae gan bob un stori unigryw i’w darganfod.
Y Daith Wib
Taflen y Daith Wib Mae’r daith gerdded hon yn eich tywys drwy dirwedd unigryw ôl-ddiwydiannol, drwy Warchodfa Natur brydferth Llynnoedd y Garn - a grëwyd yn ystod prosiect helaeth i adfer y tir yn y 1990au. Mae’r llwybr yn mynd heibio tomenni glo dramatig lle y gallwch weld sut mae natur wedi adennill yr hyn a arferai fod yn hyllbethau.
Mannau a awgrymir i ddechrau cerdded
- Maes Parcio Llynnoedd y Garn [SO 234 098]
- Maes Parcio Whistle Road [SO 230 103]
- Gorsaf Rheilffordd Treftadaeth Blaenafon [SO 235 093]
- Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru.
Taith gylch gymedrol 5km (3milltir) (tua 1.5awr)
Lawr lwythwch gopi o daflen Y Daith Wib.
Llwybr Tomen Coety
Taflen Llwybr Tomen Coety Dyma daith gerdded fer o amgylch hen domen gwastraff o Bwll Coety, mwynglawdd haearnfaen a agorwyd yn y 1840au. Er y gall ymddangos i fod yn lle anarferol i fynd am dro, fe gewch gyfle i ddysgu llawer am fywyd gwyllt, planhigion a chynefinoedd naturiol y safle. Mae'r llwybr hefyd yn meddu ar olygfa ragorol o Dirwedd Ddiwydiannol Blaenafon ac mae'n dangos y ffordd y mae gwnaeth ddiwydiant trwm, ar un adeg, ddifrodi ochr y mynydd.
Dechrau ym Maes Parcio Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru.
Taith gerdded hamddenol 1Km (0.6 milltir) (tua 15 mun)
Lawr lwythwch gopi o daflen Llwybr Tomen Coety.