Llwybrau Cerdded - Egnïol

Llwybr y Mynydd Haearn

Taflen Llwybr y Mynydd Haearn (Rhan Un) Taith gylch 18km (12 milltir) sy’n eich tywys o amgylch Mynydd Blorens. Mae’r llwybr, sy’n ymweld â hen dramffyrdd a’r gamlas, yn cwmpasu’r cyfoeth o nodweddion hanesyddol a naturiol, sy’n rhoi ei hunaniaeth unigryw ei hun i Dirwedd Ddiwydiannol Blaenafon.

Fe allwch ei ddilyn fel llwybr unigol neu gellir ei rhannu yn ddau. Mae dwy daflen teithiau cerdded ar gyfer Llwybr y Mynydd Haearn Rhan Un a Llwybr y Mynydd Haearn Rhan Dau, ac mae’r ddau lwybr yn cychwyn ym Maes Parcio Pwll y Ceidwad [SO 254 197].

Rhan Un – Taith gylch gymedrol i egnïol 11.5km (7milltir) (tua: 4.5hrs)

Rhan Dau – Taith gylch gymedrol i egnïol 8km (5milltir) (tua 3.5hrs)

Lawr lwythwch gopi o daflenni Llwybr y Mynydd Haearn (Rhan 1) a Llwybr y Mynydd Haearn (Rhan 2).

Mynydd y Garn-Fawr

Taflen Mynydd Y Garn Fawr Mynydd dan orchudd o rug rhwng Cofeb Foxhunter a Heol Llanofer, yn mynd heibio carneddau claddu o’r Oes Efydd, yn darparu tystiolaeth o drigolion cynnar Blaenafon.

Dechrau ym Maes Parcio Pwll y Ceidwad [SO 254 197].

Taith gylch egnïol 9km (5.5milltir) (tua 3awr)

Lawr lwythwch gopi o daflen Mynydd y Garn-Fawr.

Carn-y-Gorfydd

Taflen Carn Y Gorfydd Mae’r daith gylch hon yn eich tywys drwy Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig gyda thoreth o fywyd gwyllt, yn cynnwys tingochiaid, gwybedogion brith a chnocellau gwyrddion. Yn y gwanwyn, fe welwch fioledau a suran y coed gyda’i blodau bychan gwynion cain a’i dail meillion wedi plygu’n ysgafn. Fe welwch hefyd glychau gleision, gludlys a thafod yr edn. Mae’n daith gerdded wych i’r sawl sy’n caru bywyd gwyllt!

Dechrau yng Ngharn-y-Gorfydd [SO 270 10).

Taith egnïol 4km (2.5milltir) (tua 1.5hrs)

Lwr lwythwch gopi o daflen Carn-y-Gorfydd.

Glanfa Goetre i Dirwedd Blaenafon

Taflen Glanfa Goetre i Dirwedd Blaenafon Mae’r daith gerdded hon yn mynd drwy amrywiaeth o dirweddau o goetiroedd a dolydd i fynydd agored yn ogystal â’r gamlas. Cafodd ei rhannu’n chwe cham neu ‘rhan’ er mwyn ei chymryd yn araf deg.

Ni ddylid mynd amdani onid yw'r tywydd yn dda. Er eich diogelwch eich hun, gwnewch yn siŵr fod gennych offer priodol gyda dillad cynnes a diddos. Mae esgidiau cerdded yn hanfodol ar gyfer y daith hon. Argymhellir eich bod yn mynd â map o ansawdd da a chwmpawd.

Mannau a awgrymir i ddechrau’r daith:

Glanfa Goetre SO 312064 (Talu ac Arddangos)*

Coed Neuadd Goetre SO 317062
Carn-y-Gorfydd SO 270109
Croesfan Llan-ffwyst SO 285134

Taith gerdded egnïol 22Km (14 milltir) (tua 8 awr)

Lawr lwythwch gopi o daflen Glanfa Goetre i Dirwedd Blaenafon.