Cerdded o amgylch tref Blaenafon
Mae cerdded o amgylch Tref Blaenafon yn rhoi cipolwg i ymwelwyr ar y gymuned y tu ôl i'r diwydiannau haearn a glo y mae'r ardal yn enwog amdanynt. Gallwch grwydro'r rhesi o fythynnod, y capeli urddasol ac adeilad godidog Neuadd y Gweithwyr, pob un ohonynt yn dangos pa mor gryf oedd y boblogaeth yn ei hanterth.
Wrth i chi gerdded o amgylch y dref gallwch hefyd alw i mewn i rai o'r siopau arbenigol hyfryd a'r caffis sy'n bellach wedi ymgartrefu ar Heol Lydan.
Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon
Taflen Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon Mae'r daith gylchol yn cysylltu'r dref gyda'r diwydiant a'r dirwedd sy'n ei hamgylchynu, felly'n eich helpu i ddarganfod hanes Blaenafon yn ei chyfanrwydd; ei diwydiant a'r bobl a wnaeth y dref mor llewyrchus.
Dechrau ym Maes Parcio Whistle Road [SO 230103].
Taith gerdded gymedrol i egnïol 17Km (10.5 milltir) (tua 5-5.5 awr)
Lawr lwythwch gopi o daflen Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon.
Taith Gerdded Tref Blaenafon
Taflen Taith Gerdded Tref Blaenafon Mae'r daith gylch hon yn eich tywys o amgylch canol tref hanesyddol Blaenafon. Fe welwch lawer o adeiladau pwysig a thrawiadol o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a, thrwy hen ffotograffau, gallwch weld sut mae'r dref a'i hamgylchedd lleol wedi esblygu dros amser.
Dechrau yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd.
Taith gylch gymedrol i egnïol 3.5km (2 filltir) (tua: 2awr)
Lawr lwythwch gopi o daflen Taith Gerdded Tref Blaenafon.