Llwybrau Trysor

Mae'r dirwedd o amgylch Blaenafon yn llawn trysorau cudd, ond a ydych wedi eu darganfod eto? Er mwyn eich helpu, rydym wedi creu'r gyfres hon o 'Lwybrau Trysor', pob un gyda stori i'w hadrodd, trysorau i’w canfod a heriau i'w cwblhau ar hyd y ffordd. Mae'r llwybrau wedi eu cynllunio'n fwriadol i fod yn deithiau cerdded cylch, byr, sy'n addas i deuluoedd, a byddant yn eich helpu i ddilyn hanes y chwyldro diwydiannol - hanes a gerfiwyd yn y dirwedd am y tro cyntaf rhyw 200 mlynedd yn ôl!

Tomen Coety

Y byrraf o’n llwybrau, mae’r daith gerdded o amgylch tomen rwbel y mae porfa wedi tyfu drosti bellach, nesaf at Bwll Mawr, yn wych i deuluoedd â phlant ifanc.

Lawr lwythwch gopi o daflen Llwybr Trysor Tomen Coety.

Llwybrau a Gwreiddiau

Ewch am dro hamddenol ar hyd llwybr yr hen reilffordd gynt ac yna ar hyd llwybr tynnu Camlas Mynwy ac Aberhonddu - llwybrau cludo prysur ar un adeg ond erbyn hyn yn llai prysur o lawer, man i gerddwyr, seiclwyr a chychwyr gwyliau.

Lawr lwythwch gopi o daflen Llwybr Trysor Llwybrau a Gwreiddiau.

Llwybr Grug a Threftadaeth

Gwisgwch eich ‘sgidiau cerdded cryfion i fynd am dro lled egnïol o amgylch copa Mynydd Blorens, cartref mwyaf deheuol y Rugiar Goch yn y DU! Mwynhewch y golygfeydd godidog dros Ddyffryn Wysg a’r cyfle i gael cipolwg agos ar fywyd gwyllt ar weunydd yr ucheldir.

Lawr lwythwch gopi o daflen Llwybr Trysor Grug a Threftadaeth.

Llwybr Cwm Pwca

Peidiwch â gadael i’r ‘pwca’ (ysbryd y coetir) direidus eich arwain ar gyfeiliorn wrth i chi grwydro’n ddyfnach i ysblander Ceunant Clydach – lle hudol sy’n llawn rhaeadrau a rhyfeddodau’r coetir.

Lawr lwythwch gopi o daflen Llwybr Trysor Cwm Pwca.

O Domen i Drysor

Taith hamddenol a diddorol o amgylch Gwarchodfa Natur Leol Llynnoedd y Garn, ardal o Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon sydd wedi ei drawsnewid yn llwyr - o wyrdd i ddu i wyrdd unwaith eto!

Lawr lwythwch gopi o daflen Llwybr O Domen i Drysor.

Hanes yr Efail

Taith gerdded heriol i gyrchfan a oedd unwaith yn safle diwydiannol ffyniannus yn uchel ar y bryn - hen Efail Garnddyrys, a wnaed yn enwog gan Alexander Cordell yn ei nofel hynod boblogaidd 'Rape of the Fair Country'.

Lawr lwythwch gopi o daflen Llwybr Trysor Hanes yr Efail.

Llwybr Cudd Ger yr Efail

Taith gerdded hawdd heibio Pwll Mawr a phentref Ger yr Efail - cymuned a adeiladwyd yn y cyfnod creu haearn a chloddio am lo. Mynnwch seibiant yn Eglwys San Pedr ar y ffordd yn ôl a rhyfeddwch ar y beddrodau â phennau haearn yn y fynwent.

Lawr lwythwch gopi o daflen Llwybr Cudd Ger yr Efail.

Rhodfeydd i’r Gorffennol

Cerddwch drwy ysblander Ceunant Clydach i ddod i hen reilffordd yr un mor rhyfeddol sy'n glynu wrth ochr y bryn. Dilynwch y llwybr ar draws traphont drawiadol yn uchel i fyny yng nghanopi'r coed, cyn disgyn yn ôl i lawr y dyffryn.

Lawr lwythwch gopi o daflen Llwybr Trysor Rhodfeydd i’r Gorffennol.

Ymdrech Dynol

Camwch drwy galon Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon i gyrraedd yr eiconig Simnai ‘Hill Pits’ – sy’n ymdrech dynol yn ei wir ystyr!

Lawr lwythwch gopi o daflen Llwybr Trysor Ymdrech Dynol.