Dogfennau

Mae amrywiol gyhoeddiadau a thaflenni ar gael i’w lawrlwytho. Mae rhai dogfennau, megis Dogfen Enwebu Safle Treftadaeth y Byd, allan o brint ac felly ond ar gael ar y fformat hwn.

Mae cyhoeddiadau eraill, megis taflenni teithiau cerdded, ar gael yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon am dâl bychan, neu gellir eu lawrlwytho am ddim o adran Cynllunio eich Ymweliad y wefan. Mae copïau o’n cylchlythyr lleol, Newyddion Treftadaeth, ar gael i’w lawrlwytho yma.

Cynllun Rheolaeth (2018-2023)

Mae Partneriaeth STB Blaenafon wedi cymeradwyo Cynllun Rheolaeth newydd i Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon ar gyfer 2018 – 2023

Cynllun Rheolaeth (2011-2016)

Mae Partneriaeth Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon wedi cymeradwyo Cynllun Rheoli Safle Treftadaeth y Byd ar gyfer y cyfnod 2011 hyd at 2016.

Crynodeb Gweithredol o’r Cynllun Rheoli Drafft (2011)

Mae’r Crynodeb Gweithredol yn esbonio arwyddocâd Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon, llwyddiannau 2000-2010 ac yn crynhoi cynnwys y Cynllun Rheoli Drafft, 2011-2016.

Clawr blaen Dogfen Enwebu’r Cynllun Rheoli (1999)

Mae’r Ddogfen Enwebu yn rhoi disgrifiad manwl o nodweddion Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, sy’n gwneud Safle Treftadaeth y Byd mor bwysig yn hanes cymdeithasol, diwylliannol a diwydiannol y byd.

Cynllun Rheoli Gwreiddiol (1999)

Mae Cynllun Rheoli gwreiddiol Safle Treftadaeth y Byd yn rhoi gweledigaeth fras o ansawdd, arwyddocâd, cyflwr a photensial y safle.

Tirweddau Angof

Gellir lawrlwytho dogfennau’n ymwneud â Chynllun Partneriaeth Tirweddau Angof yma.

Dogfennau Defnyddiol Eraill

Mae dogfennau ac astudiaethau defnyddiol eraill yn ymwneud â Safle Treftadaeth y Byd yn cynnwys:

Ar gyfer cyhoeddiadau, papurau a dogfennau arlein yn ymwneud â Safleoedd Treftadaeth y Byd, ewch i wefan Treftadaeth y Byd UNESCO