Rhaglen Treftadaeth Treflun
Croeso i Raglen Treftadaeth Treflun Blaenafon!
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn cyflwyno prosiect adfywio treftadaeth gwerth £1.9miliwn i reoli newidiadau cadarnhaol i ganol y dref a hyrwyddo Blaenafon fel Safle Treftadaeth y Byd a chyrchfan i dwristiaid.
Bydd yr arian yn galluogi’r Cyngor i gyflenwi Rhaglen Treftadaeth Treflun a fydd yn helpu perchenogion eiddo yn Broad Street i wneud gwelliannau â sail treftadaeth i’w heiddo, gan wella gwedd ac awyrgylch canol y dref i’w gwneud yn lle mwy deniadol i ymweld â masnachu ynddo.
Bydd hefyd yn ariannu prosiectau sydd wedi eu cynllunio er mwyn ymgysylltu â’r gymuned leol, gan gynnwys; creu cyfleoedd dysgu i blant ysgol ddathlu treftadaeth eu tref, prentisiaethau cadwraeth, gorymdeithiau Diwrnod Treftadaeth y Byd a llawer mwy. Mae ein gweithgareddau wedi eu cynllunio er mwyn ymgysylltu â’r gymuned leol a gwirfoddolwyr mewn perthynas ag amrywiaeth eang o weithgareddau sy’n cyflenwi sgiliau a hyfforddiant sy’n ategu hanes yr ardal.
Mae RhTT Blaenafon yn cefnogi adfywio treftadaeth ffisegol a chymunedol ym Mlaenafon trwy grantiau adeiladu wedi'u targedu ar gyfer eiddo a mentrau cymunedol penodol.
Mae gweithgareddau cymunedol y rhaglen yn ein helpu i ymgysylltu ar draws cymuned Blaenafon i archwilio cysylltiadau personol pobl â’u treftadaeth a dathlu’r dref sydd â Statws Treftadaeth Byd.
Mae RhTT Blaenafon yn cael ei chyflwyno drwy gyfraniadau ariannol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cyngor Tref Blaenafon, Cadw ac Ymgeiswyr o’r Sector Preifat.
Rhaglen Ddysgu Amgen
Grŵp Hanes Treftadaeth Blaenafon
Cyfalaf
Y Gymdeithas Ddinesig
Community Events
Arddangosfeydd
Gweithdai Adeiladau Treftadaeth
Hanesion Cudd Blaenafon
Cynllun Baneri ar Sgaffaldau
Arolwg Gwerthuso RHTT: Cymerwch Ran!
Gorymdaith Diwrnod Treftadaeth y Byd
Y Prentis - Prentisiaethau Mewn Adeiladwaith