Pecyn Cymorth Marchnata

Mae eich busnes / sefydliad yn rhan bwysig o Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon. Rydym am eich helpu i wneud y mwyaf o'r manteision y gallwch eu mwynhau wrth fod yn rhan o Safle treftadaeth y Byd. Mae'r pecyn cymorth hwn yn darparu syniadau a chyngor syml ynghylch sut y gallwch ddefnyddio brand 'Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon' i'ch helpu i farchnata eich safle, a sicrhau bod y 'cynnig' cyffredinol yn yr ardal yn fwy deniadol i ymwelwyr drwy ddangos eich bod yn rhan o rywbeth llawer mwy.

Lawr lwytho’r pecyn cymorth yma.

Rydym wedi cynnwys copi defnyddiol y gallwch ei dorri a gludo i mewn i'ch gwefannau, taflenni a datganiadau i'r wasg ac ati, eich hunan. Rydym hefyd wedi cynnwys rhai delweddau stoc a rhoi cyngor ar sut i ddefnyddio lluniau o blith casgliad helaeth Croeso Cymru. Mae yna hefyd awgrymiadau ymarferol ar ddefnyddio'r sianelau cyfryngau cymdeithasol sy'n cysylltu â'r prosiect, rhestr o gysylltiadau arbenigol, defnyddiol, cyngor ar gael eich straeon ar y llwyfan cenedlaethol yn ogystal â dolenni cyswllt i becyn cymorth marchnata Croeso Cymru a llawer mwy.

Gobeithiwn y bydd o ddefnydd i chi!