Partneriaeth Blaenafon

Mae’r rhestr ganlynol yn disgrifio’r partneriaid a’u diddordeb yn Safle Treftadaeth y Byd:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (CBST): dyma’r awdurdod arweiniol ym Mhartneriaeth Blaenafon. CBST yw’r Awdurdod Unedol ar gyfer mwy na 50% o’r safle gan gynnwys tref Blaenafon ac mae ganddo bwerau a dyletswyddau llawn llywodraeth leol gan gynnwys Cynllunio Gwlad a Thref a materion amgylcheddol eraill.

Cyngor Sir Fynwy (CSF): yn gyfrifol am ychydig dan 50% o’r safle. Mae CSF yn awdurdod unedol gyda phwerau llawn llywodraeth leol. Fodd bynnag, mae cyfrifoldebau cynllunio ar gyfer yr ardal hon bron i gyd yn dod dan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (APCBB): mae rhyw 45% o Dirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn dod o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Pwrpas dynodiad Parc Cenedlaethol, fel y’i diwygiwyd dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995, yw gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal a hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad o’i nodweddion arbennig. Rhaid cymryd i ystyriaeth fuddiannau economaidd a chymdeithasol y trigolion. Y Parc Cenedlaethol yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol ar gyfer yr ardal o fewn ei ffiniau.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (CBSBG): ‘Does dim o’r safle yn dod o fewn ardal weinyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, ond fel cymydog agos mae gan CBSBG ddiddordeb yn nynodiad a rheolaeth Safle Treftadaeth y Byd.

Cyngor Tref Blaenafon (CTB). Y cyngor lleol ar gyfer tref Blaenafon, sef y brif anheddiad o fewn y safle. Mae trefniant gwaith arbennig rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chyngor Tref Blaenafon trwy gyfrwng Grŵp Strategaeth sydd â chyllideb flynyddol o £50,000.

Cadw: Henebion Hanesyddol Cymru (Cadw): Cadw yw adran amgylchedd hanesyddol Cynulliad Cymru. Ei nod yw amddiffyn a chynnal, annog cyfranogiad cymunedol yn a gwella mynediad at amgylchedd hanesyddol Cymru. Mae’n cynnwys adeiladau hanesyddol, henebion, parciau hanesyddol, gerddi a thirweddau ac archaeoleg danfor. Mae gan Cadw hefyd gyfrifoldeb uniongyrchol fel gwarcheidwad gweithfeydd haearn Blaenafon.

Croeso Cymru: Croeso Cymru yw tîm twristiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Croeso Cymru yn gyfrifol am hyrwyddo a datblygu twristiaeth yng Nghymru.

Y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hynafol a Hanesyddol Cymru: y corff cenedlaethol sy’n arolygu a chofnodi. Ei nod yw casglu ynghyd a sicrhau bod archif ar gael o adeiladau hanesyddol a henebion Cymru ar gyfer unigolion a mudiadau sy’n deall, gwarchod a rheoli’r amgylchedd adeiledig.

Amgueddfa Genedlaethol Cymru (AGC): yn bodoli i warchod a hyrwyddo treftadaeth a diwylliant Cymru, yng nghyd-destun y byd. Mae gan AGC ofyniad dan ei Siarter Brenhinol i ‘hyrwyddo dealltwriaeth a gwybodaeth o ddiwydiannau arbennig Cymru trwy gasglu a gwarchod arteffactau a gwaith ymchwil iddynt, eu dehongli a’u harddangos’. Mae gan AGC gyfrifoldeb uniongyrchol am Amgueddfa Lofaol Genedlaethol y Pwll Mawr. Mae ei arbenigrwydd o ran gwarchod a rheoli safleoedd ar gael bob dydd i Bartneriaeth Blaenafon.

Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC): cynghorydd statudol y Llywodraeth ar gynnal harddwch naturiol, bywyd gwyllt a’r cyfle i fwynhau’r awyr agored yng Nghymru a dyfroedd ei glannau. Mae CCGC yn hyrwyddo’r amgylchedd a thirweddau Cymru a’i dyfroedd arfordirol fel ffynonellau o gyfoeth naturiol a diwylliannol, fel sylfaen ar gyfer gweithgaredd economaidd a chymdeithasol, ac fel lle ar gyfer hamdden a dysgu. Nod CCGC yw gwneud yr amgylchedd yn rhan werthfawr o fywyd pawb yng Nghymru.

Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) – Adran yr Economi a Thrafnidiaeth (AETh): yn ddiweddar wedi canoli rolau Asiantaeth Datblygu Cymru (ADC). Mae’r adran hon yn delio gyda datblygiad economaidd, adfywio a gwelliannau amgylcheddol a bydd swyddogion sy’n cynrychioli’r amrywiol fuddiannau hyn yn parhau i wasanaethu ar Grŵp Llywio Partneriaeth Blaenafon.

Dyfrffyrdd Prydain (DP): yn gyfrifol am reoli a chynnal a chadw Camlesi Dyfrffyrdd Prydain, gan gynnwys Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu. Un o brif amodau cyfeirio’r bwrdd yw parchu treftadaeth ddiwydiannol.

Rhwydweithio

Mae Partneriaeth Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon yn rhwydweithio’n eang. Mae cyfundrefnau rydym yn gweithio gyda nhw yn cynnwys Treftadaeth y Byd DU (WH:UK) a Llwybr Ewropeaidd Treftadaeth Ddiwydiannol (ERIH).