Thema - Technoleg Flaenllaw
Ni ellir diystyru pwysigrwydd y Chwyldro Diwydiannol; fe drawsnewidiodd wead economaidd a chymdeithasol diwylliannau y mae eu heconomïau wedi eu seilio ar ffermio ers miloedd o flynyddoedd, ac arweiniodd yn uniongyrchol at ddatblygiad y byd modern.
Roedd arloesi technolegol law yn llaw â datblygiad economaidd De Cymru yn ystod y Chwyldro Diwydiannol yn enwedig yn y meysydd haearn a dur, cludiant a pheirianneg sifil. Mae Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn lle pwysig i astudio'r Chwyldro Diwydiannol ac mae'n lleoliad delfrydol ar gyfer ysgolion sy'n astudio'r newidiadau a ddigwyddodd yng Nghymru, Prydain a'r byd ehangach rhwng 1760 a 1914. Mae yna olion y gweithfeydd haearn a adeiladwyd ar ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau'r 19eg ganrif mewn gwahanol leoedd ym Mhrydain, ond nid oes yr un mor gyflawn ag ym Mlaenafon, sy'n cwmpasu yn ogystal, safleoedd echdynnu deunyddiau crai (glo, haearn, calchfaen), a system gymhleth o gludo dros dir a dŵr, a safleoedd anheddau dynol, cyfoes.
Mae'r adnoddau gwybodaeth yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon yn fan cychwyn ardderchog ac ysgogiad i astudiaeth ar y thema hon. Mae datblygiadau arloesol pwysig yn cael eu hamlygu drwy gydol yr arddangosfeydd a gellir hefyd archwilio i ganlyniadau'r digwyddiadau a'r datblygiadau hyn. Mae ein gwe testunau isod yn rhoi rhai awgrymiadau ar gyfer datblygu thema 'Technoleg Flaenllaw'.
Adnoddau Cyfnod Allweddol 2
- Cerdyn Gwaith 1 - Technoleg Flaenllaw - 1568 hyd at 1816
- Cerdyn Gwaith 5 - Technoleg Flaenllaw - 1756 hyd at 1885
- Cerdyn Gwaith 11 - Technoleg Flaenllaw - 1890 hyd at 1920