Thema - Tirwedd

Ffurfiwyd Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon gan rymoedd naturiol am biliynau o flynyddoedd; mae prosesau daearegol a hinsawdd wedi creu etifeddiaeth yn y creigiau y mae gwneuthurwyr haearn wedi ei ddatblygu ers canrifoedd lawer. Felly, mae'r cysylltiad rhwng gweithgarwch dynol a natur yn un annatod.

Ar ddiwedd yr Oes Iâ ddiwethaf, wrth i natur ddechrau ail-gytrefu'r ardal, fe wnaeth gweithgareddau dynol ddylanwadu ar olwg y dirwedd o gyfnod yr helwyr-gasglwyr cynnar hyd nes i ffermio ymddangos yn yr ardal tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl. Ym Mlaenafon, mae tystiolaeth ffisegol o weithgarwch dynol yn y dirwedd ar ffurf carneddau claddu o'r Oes Efydd gynnar (2,500 i 1,400 CC) ymlaen ac mae'n debygol erbyn hyn y byddai gweundir heb goed, tebyg i heddiw wedi ymsefydlu. Byddai da byw wedi pori'r dirwedd a byddai'n cynnal poblogaeth fach, wasgaredig o ffermwyr a gweision. Yn ddiweddarach, daeth y gweundir yn enwog am ei rugiar goch a oedd yn destun chwaraeon i'r gwŷr mawr.

Dechreuodd yr ymelwa ar gyfoeth daearegol yr ardal heb os, ymhell cyn y cyfeiriadau dogfennol cynharaf yn y 16eg ganrif gyda glo a mwyn haearn yn cael eu cludo i efeiliau haearn ym Mhont-y-pŵl (unwaith yn un o'r canolfannau creu haearn mwyaf blaenllaw ym Mhrydain) ac yn Llanelly ger Gilwern. Fe wnaeth y fath ymelwa ar y cyfoeth hwn gynyddu'n fawr pan sefydlwyd Gwaith Haearn Blaenafon ym 1787 a pharhaodd tan ddiwedd yr 20fed ganrif - pob cam o'r gweithgarwch diwydiannol yn ychwanegu at a difodi'r cyfnodau cynharach gan greu tirwedd ddiwydiannol gymhleth a diddorol sy'n cynnwys chwareli, lefelau, siafftiau , tomennydd gwastraff, ffyrdd, rheilffyrdd a thramffyrdd sy'n dyddio o wahanol gyfnodau. Wrth gwrs, drwy gydol y cyfnod hwn, mae Blaenafon hefyd wedi bod yn dirwedd fyw, wedi'i phoblogi gan bobl a natur, y ddau ohonynt wedi gorfod addasu i amgylchedd sy'n newid.

Mae effeithiau amgylcheddol y dirywiad diwydiannol hefyd wedi creu canlyniadau ffisegol ar gyfer y dirwedd gyda chynlluniau i 'adennill' tir a chlirio tomennydd yn mynd rhagddynt yn ystod degawdau olaf yr 20fed ganrif. Mewn ymgais i greu cyfleoedd gwaith, mae awdurdodau cyhoeddus wedi creu stadau diwydiannol newydd ac ers y dyfarnwyd Statws Safle Treftadaeth y Byd i’r safle yn 2000 cafwyd buddsoddiad cyhoeddus sylweddol yn canolbwyntio ar welliannau amgylcheddol yn y dref a'r dirwedd, a hynny fel elfennau allweddol o bolisi adfywio 'a arweinir gan dreftadaeth'. Felly, mae Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn astudiaeth achos rhagorol i fyfyrwyr sy'n astudio dirywiad trefol ac adfywio economaidd.

Mae'r adnoddau gwybodaeth yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon yn fan cychwyn ardderchog ac ysgogiad i astudiaeth ar y thema hon. Mae ein gwe testunau isod yn rhoi rhai awgrymiadau ar gyfer datblygu thema 'Tirwedd'.

Adnoddau Cyfnod Allweddol 2

Adnoddau Cyfnod Allweddol 4

Landscape Topic WebLandscape Key Stage 2 Topic Web