Thema - Blaenafon a'r Byd Tu Hwnt
Roedd diwydiannau haearn a glo De Cymru o bwysigrwydd byd-eang yn ystod y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif ac nid oes lle gwell i weld hyn nag yn yr ardal o amgylch Blaenafon. Amlygwyd hyn pan gafodd Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon ei henwi'n Safle Treftadaeth y Byd ym mis Rhagfyr 2000. Cafodd cynnyrch y diwydiannau haearn a glo eu hallforio i bob cwr o'r Byd. Erbyn canol y 19eg ganrif, roedd diwydiant haearn De Cymru yn gyfrifol am 40% o allbwn haearn y DU ( economi diwydiannol mwyaf y Byd ar yr adeg honno). Erbyn 1913, cafodd un rhan o dair o allforion glo y Byd ei chynhyrchu yn Ne Cymru a hynny gan chwarter miliwn o lowyr; neu chwarter y gweithlu yng Nghymru ar y pryd.
Mae yna ddigon i'n hatgoffa am y diwydiannau haearn a glo ar draws De Cymru, ond nid yw arwyddocâd y diwydiannau hyn yn fyd-eang yn cael ei werthfawrogi cystal. Ochr yn ochr â datblygiad economaidd De Cymru yn ystod y Chwyldro Diwydiannol oedd y datblygiadau technegol a fabwysiadwyd mewn mannau eraill a gyfrannodd at ledaenu'r Chwyldro Diwydiannol ar draws y Byd. Yn aml, roedd y bobl oedd yn gyfrifol am ymarfer arbenigedd technolegol yn Ne Cymru yn lledaenu'r arbenigedd hwn ar draws y byd; ceisiwyd sgiliau'r bobl oedd yn meddu ar brofiad diwydiannol gan y diwydiannau haearn a glo a oedd yn cael eu datblygu yn enwedig yn Unol Daleithiau America.
Mae'r adnoddau gwybodaeth yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon yn fan cychwyn ardderchog ac ysgogiad i astudio'r thema hon. Mae ein gwe testunau isod yn rhoi rhai awgrymiadau ar gyfer datblygu thema 'Blaenafon a'r Byd tu hwnt '.