Thema - Pobl

Mae Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn fan astudio pwysig i astudio'r Chwyldro Diwydiannol ac mae'n lleoliad delfrydol i ysgolion sy'n astudio newidiadau ym mywydau dyddiol pobl yn y 19eg ganrif, a'r newidiadau a ddigwyddodd yng Nghymru, Prydain a'r byd ehangach rhwng 1760 ac 1914 ac ymateb pobl iddynt.

Sefydlwyd Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon i ddarparu canolbwynt i etifeddiaeth ddiwydiannol gyfoethog yr ardal, i adrodd hanes y dynion a'r menywod cyffredin a ffurfiodd y dirwedd hon o ddyddiau cynharaf y Chwyldro Diwydiannol hyd heddiw, a hynny ar ffurf ffilm, sain ac arddangosfeydd graffig a rhyngweithiol.

Cyn sefydlu Gwaith Haearn Blaenafon ym 1787, roedd Blaenafon yn ardal anghysbell, wledig a oedd yn gartref i gymuned fach, gymunedol a gwasgaredig, Cymraeg ei hiaith oedd yn dibynnu i raddau helaeth ar y tir am eu bywoliaeth. Bron dros nos cafodd yr ardal ei thrawsnewid i un lle nad oedd y mwyafrif o'r trigolion bellach yn cael eu rheoli gan gylch y tymhorau a mympwyon y tywydd, ond gan ofynion diwydiant newydd. Ym Mlaenafon, gall myfyrwyr archwilio sut cafodd bywydau pobl eu trawsnewid gan y Chwyldro Diwydiannol.

Mae tref a phatrwm y gymuned ym Mlaenafon yn dystiolaeth werthfawr o ddechreuad math newydd o brofiad dynol - cymdeithas ddiwydiannol - yn cynhyrchu patrymau newydd o anheddu a defnyddio tir. Mae'n gofeb i ddiwylliant y dosbarth gweithiol a ddaeth i'r amlwg yng nghymoedd De Cymru ac mae'n dangos y tensiynau rhwng y cyflogwr a'r gweithiwr, yr Eglwys Sefydledig ac Ymneilltuaeth, siaradwyr Cymraeg a siaradwyr Saesneg pob un ohonynt yn cael eu cynrychioli yn nhreftadaeth adeiledig y dref sy'n cynnwys cartrefi gweithwyr a meistri, eglwysi, capeli, siopau, tafarndai a Neuadd ac Institiwt y gweithwyr. Mae goroesiad anarferol o gyflawn y dirwedd gwaith a chymdeithas sydd ohoni yn dystiolaeth eithriadol o ddiwylliant diwydiannol cynnar.

Mae'r adnoddau gwybodaeth yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon yn fan cychwyn ardderchog ac ysgogiad i astudiaeth ar y thema hon. Mae ein gwe testunau isod yn rhoi rhai awgrymiadau ar gyfer datblygu’r thema 'Pobl'.

Adnoddau Cyfnod Allweddol 2

People Topic WebPeople Foundation Phase Topic WebPeople Key Stage 2 Topic Web