2. Pont Aaron Brute

Rydych yn edrych ar Bont Aaron Brute. Heneb restredig, dyma un o’r enghreifftiau cynharaf yn y byd o bont haearn bwrw, a thybir y cafodd ei hadeiladu o gwmpas 1812. Mae wedi ei henwi ar ôl Aaron Brute a oedd yn reolwr y pwll glo lleol pan gafodd ei hadeiladu, ac yn ddyn dylanwadol. Medrwch weld y bwthyn lle’r oedd yn byw drws nesaf i’r bont. Ewch yn ôl i’r ffordd, gan ei dilyn i’r dde. Ar y chwith fe welwch fynedfa gyda mynegbost i Goedlan Gymunedol Ger yr Efail.

aarons
Blaenavon World Heritage Site logo

This website is optimised for portrait mobile devices. Please rotate your device or resize your browser.