3. Dannedd Y Ddraig
Ar y chwith i chi mae System Ddŵr Dannedd y Ddraig. Byddwch yn ofalus yma gan y gall fod yn llithrig. Mae system ddŵr micro yn ffynhonnell ynni adnewyddadwy, nad yw’n llygru. Mae’n tynnu peth o’r dŵr o’r afon trwy sgrîn, yn ei wyro trwy bibell wedi ei chladdu, i mewn i dyrbin bach sy’n cynhyrchu trydan, cyn ei ddychwelyd i’r afon. Dan amodau da mae’n medru cynhyrchu hyd at 26 kW o bŵer, sy’n helpu pweru adeiladau lleol. Ewch ymlaen ar y prif lwybr.
This website is optimised for portrait mobile devices. Please rotate your device or resize your browser.