10. Tai Gweithwyr Ger Yr Efail
Rydych nawr yn Forgeside. Dechreuwyd adeiladu gefail newydd i’r gwaith haearn ym 1838 ond bu oedi oherwydd diffyg adnoddau. Rhan gyntaf y gwaith i’w gwblhau oedd yr efail ei hun ym 1859 a dilynodd melin ym 1860. Roedd y ffwrneisi olaf yn gweithio erbyn 1861, 21 o flynyddoedd ar ôl dechrau ar y gwaith. Yr efail yw lle mae haearn crai a wnaed o fwyn ffosfforig yn cael ei droi’n ddur sylfaenol, dull a arloeswyd gan Sidney Gilchrist Thomas. Roedd rhwydwaith helaeth o reilffyrdd a thramffyrdd ar y safle yn cludo deunydd crai a nwyddau gorffenedig i ac o’r efail.
Ewch yn eich blaen heibio’r tai ar y chwith i chi.
This website is optimised for portrait mobile devices. Please rotate your device or resize your browser.