5. Pwll Yr Injan
Drosodd ar y dde, cyn i’r llwybr droi i’r chwith, gellir gweld Pwll yr Injan ac olion ei olwyn ddŵr. Mae hwn yn Heneb Restredig oherwydd mai hwn oedd un o’r siafftiau draenio cynharaf sy’n gysylltiedig â Gwaith Haearn Blaenafon. Cafodd y Pwll ei suddo o gwmpas 1806 mae’n debyg fel siafft pwll glo, ond erbyn 1819 roedd yn bwysig fel mecanwaith draenio, a oedd yn caniatáu defnyddio cloriannau dŵr o gwmpas Blaenafon i dynnu glo a mwyn haearn i fyny ac i lawr y siafftiau a’r elltydd.
This website is optimised for portrait mobile devices. Please rotate your device or resize your browser.