6. Coedlan Gymunedol
Rydych yn cerdded trwy Goedlan Gymunedol Ger yr Efail. Medrwch hefyd feicio trwy’r goedlan hon. Hen domen lo oedd yma, ac mae Coedlan Gymunedol Ger yr Efail nawr yn lle braf y gall pawb ei fwynhau. Mae’r goedlan yn rhoi lloches i adar nythu, yn enwedig bwncathod. Mae glaswelltir a chorsydd yn y goedlan. Mae’r rhain yn rhai o’r nodweddion pwysicaf yn y goedlan oherwydd eu bod yn gynefin hanfodol i löynnod byw unigryw fel y Gwibiwr Llwyd a Iar Fach y Graig. Byddwch yn cyrraedd Llwybr 492 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Trowch i’r dde ar hyd y llwybr beicio hwn.
This website is optimised for portrait mobile devices. Please rotate your device or resize your browser.