7. Doncasters

Y ffatri fawr ar y chwith yw Doncasters. Sylfaenwyd Doncasters Group Ltd yn wreiddiol ym 1778, pan ddechreuodd Daniel Doncaster fusnes yn Sheffield, Lloegr i ddefnyddio’r broses o wneud dur mewn crwsibl i wneud celfi llaw. Mae nawr yn un o’r cwmnïau gwneud nwyddau diwydiannol sydd wedi bod yn gweithredu’n barhaus am y cyfnod hiraf yn y byd. Sefydlwyd Doncasters Blaenafon yn y 1950au ac mae’n safle diwydiannol gweithredol o hyd yn ardal Ger yr Efail. Mae’n gwneud cylchau gyredig, casinau, llafnau a disgiau ar gyfer y diwydiannau awyr, tyrbin nwy diwydiannol a diwydiannau peirianneg arbenigol. Ewch yn eich blaen ar hyd y llwybr beicio, gan fynd i lawr ar y ffordd sy’n eich arwain at brif fynedfa’r Pwll Mawr. Dilynwch y ffordd hon.

doncasters
Blaenavon World Heritage Site logo

This website is optimised for portrait mobile devices. Please rotate your device or resize your browser.