8. Pwll Mawr

Byddwch yn mynd heibio’r brif fynedfa i Amgueddfa Lo Genedlaethol y Pwll Mawr, lle mae mynediad am ddim i’r atyniad hwn. Agorodd y Pwll Mawr ym 1860 i gloddio am lo. Glo oedd yn rhedeg y chwyldro diwydiannol. Cawsai ei ddefnyddio i wneud haearn a dur ac roedd yn gyrru llongau, locomotifau a pheiriannau ager. Yn ystod y 19eg a’r 20fed ganrif, roedd Pwll Mawr yn un o nifer o byllau glo yn gweithio ym Mlaenafon, a gyda’i gilydd roeddynt yn cynhyrchu digon o lo i droi De Cymru yn arweinydd y byd o ran cynhyrchu glo. Pan ddaeth i ben ym 1980 dyma’r pwll glo gweithredol hynaf yn ne Cymru. Heddiw, fel Amgueddfa Lo Genedlaethol Cymru, mae’n enwog am ei amgueddfa a’r daith danddaearol sy’n dangos i chi sut roedd hi i fyw a gweithio yno.

Ewch ymlaen i fyny’r ffordd sy’n mynd heibio’r brif dderbynfa a chwiliwch am y llwybr troed gyda’r mynegbost ar y chwith i chi. Dilynwch y llwybr hwn.

Pwll Mawr
Blaenavon World Heritage Site logo

This website is optimised for portrait mobile devices. Please rotate your device or resize your browser.