Taith Diwrnod o Gaerdydd

Mae Safle Treftadaeth Byd Blaenafon yn "daith diwrnod" gwych os ydych yn aros yng nghyffiniau Caerdydd. Gadewch Gaerdydd ar yr M4 a theithio i Gyffordd 26. Oddi yno ewch tua’r gogledd ar yr A4042 a’r A4043 (dilynwch yr arwyddion Brown a Gwyn at Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru).

Dyma awgrym o drefn eich diwrnod ym Mlaenafon:

  • Galwch heibio i’r Ganolfan Treftadaeth Byd i ddysgu hanes Blaenafon yn y Chwyldro Diwydiannol ac i ddarganfod pam mae’r ardal hon yn Safle Treftadaeth Byd.
  • Dewch i weld Gwaith Haearn Blaenafon a chael blas ar fywydau’r gweithwyr diwydiannol arloesol hynny a ddaeth i’r cwm tawel hwn a sefydlu’r gwaith haearn dros 225 o flynyddoedd yn ôl.
  • Ewch ar daith o dan y ddaear gyda glöwr go iawn yn Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru i sicrhau diwrnod bythgofiadwy.

Mae yna gyfuniadau niferus eraill o atyniadau a gweithgareddau yn Safle Treftadaeth Byd Blaenafon. Os hoffech i ni eich helpu i greu taith unigryw, yna cofiwch gysylltu â’r Ganolfan Croeso Blaenavon.tic@torfaen.gov.uk neu 01495 742333.