Teithio o gwmpas Blaenafon
Mae gwybodaeth am leoliad gwahanol safleoedd ac atyniadau ar Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon ar gael gan y Ganolfan Groeso, sydd wedi ei lleoli yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd. Fel arall, mae map sy'n amlinellu'r atyniadau allweddol a chyfleusterau parcio ar gael i’w lawr lwytho yma.
Cyfarwyddiadau Ganolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon/Y Ganolfan Groeso
Dilynwch yr arwyddion ffyrdd “i” i faes parcio Stryd y Tywysog ac yna dilynwch yr arwyddion i ‘gerddwyr’ ar hyd Heol yr Eglwys i’r ganolfan. Mae yna faes parcio bach gyferbyn â’r ganolfan, i fysiau ollwng ymwelwyr ac i ymwelwyr anabl adael eu ceir.
Cyfleusterau parcio
Y Dref Dreftadaeth
Mae yna arwyddion ar gyfer y meysydd parcio hyn o’r prif lwybrau i Flaenafon. Ymhob un o’r meysydd parcio fe welwch arwyddion cerddwyr i’ch tywys i’r ystod eang o atyniadau a chyfleusterau yn y dref.
- Maes Parcio Stryd y Llew – am ddim
- Maes Parcio Heol Lydan - am ddim
- Maes Parcio Prince Street – am ddim
Mae gan bob maes parcio fannau parcio i ymwelwyr anabl a mannau i gadw beiciau.
Meysydd Parcio’r Atyniadau
- Maes Parcio Pwll Mawr - £2 talu ac arddangos (am ddim i fysiau)
- Maes Parcio Lein Aros y Ffwrnais (ar gyfer y Rheilffordd Treftadaeth) – am ddim
- Maes Parcio’r Gwaith Haearn (cynnwys maes parcio bach i fysiau) – am ddim
- Maes Parcio Canolfan Treftadaeth y Byd (cynnwys maes parcio bach i fysiau) – am ddim
- Maes Parcio Pwll y Ceidwad – am ddimMaes Parcio Foxhunter - am ddim
- Llynnoedd y Garn – am ddim
- Maes Parcio Rifle Green – am ddim
Gall ymwelwyr grwydro’r holl atyniadau yn y dref ar droed - felly beth am barcio’r car a chrwydro!
Gwasanaethau Bws
Mae gwasanaeth bws yn cysylltu’r dref â Phwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru – Bws Rhif 30 Brynmawr – Gall Traveline gynnig mwy o wybodaeth.
Beicio
Mae nifer o brif atyniadau Blaenafon o fewn cyrraedd ar gefn beic. Mae Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru, Gwaith Haearn Blaenafon, Canolfan Ymwelwyr Bragdy Rhymni, Rheilffordd Treftadaeth Blaenafon, Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon, Llynnoedd y Garn a Thref Blaenafon i gyd wedi eu lleoli o fewn cyrraedd agos iawn i’r trac beicio. Lawr lwythwch y daflen i gael mwy o wybodaeth!
Gwasanaethau Tacsi
Mae Blaenafon Cars yn cynnig gwasanaeth teithio dibynadwy, cyfeillgar a phroffesiynol i ymwelwyr sy’n dod i’r ardal. Cysylltwch ar 01495 791612 neu 07521 447211 os oes gennych ymholiadau neu angen bwcio.
Toiledau
Mae yna doiledau ar Stryd y Llew. Mae yna hefyd doiledau ym Mhwll Mawr, y Gwaith Haearn a Chanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon.