Trenau, llwybrau a threfi
Mae’r daith a awgrymir yn ymwneud â darganfod hanes Blaenafon.
- Beth am alw heibio Canolfan Treftadaeth y byd Blaenafon, codi taflenni llwybrau cerdded a mwynhau paned o de a chacen yn yr Heritage Café wrth benderfynu pa lwybr i’w ddilyn.
- Dilynwch lwybr cerdded ar Dirwedd Ddiwydiannol Blaenafon - efallai mynd am dro o amgylch tomen Coety neu daith fwy egnïol ar hyd Llwybr y Mynydd Haearn.
- Os nad cerdded yw’r peth i chi, yna beth am fynd ar daith drwy Dirwedd Ddiwydiannol Blaenafon ar drên stêm a mwynhau’r golygfeydd ysblennydd. Edrychwch ar wefan Rheilffordd Treftadaeth Blaenafon i weld amserau’r trenau.
- O orsaf tref lefel Uchel Blaenafon, beth am grwydro i mewn i Dref Dreftadaeth Blaenafon lle mae siopau annibynnol traddodiadol ac arbenigol a chaffis, yn eistedd rhwng capeli ac eglwysi hanesyddol. Dilynwch Lwybr y Dref neu ei lawr lwytho o Ap Pasbort Digidol Blaenafon.
- Cofiwch alw heibio Neuadd y Gweithwyr, a fydd, mewn dim, yn gartref i Amgueddfa Gymunedol Blaenafon gyda’i chasgliad eang o arteffactau lleol a swyddfa Alexander Cordell, yn ogystal ag eitemau eraill sy’n gysylltiedig â Rape of the Fair Country, y llyfr a ysgrifennwyd ganddo yn y 1950 a wnaeth gipio ysbryd Blaenafon yn ystod y chwyldro diwydiannol.