Cyrraedd Safle Treftadaeth y Byd
Ar yr heol
Teithio o Birmingham
Gan deithio o Birmingham a gogledd Prydain dilynwch yr M5 i'r De. Gadewch ar Gyffordd 8 a pharhau ar yr M50 i'r Rhosan ar Wy. Cymerwch yr A40 i'r Fenni. Ar y gylchfan cymerwch yr ail droad i'r A465. Gadewch yr A465 ar y troad cyntaf a dilynwch yr arwyddion i Flaenafon a Phwll Mawr. Nid yw'r llwybr hwn yn addas i gerbydau mawr a bysiau, felly dylai'r cerbydau hyn barhau ar yr A465 i Frynmawr a chodi'r arwyddion i Flaenafon a Phwll Mawr o'r fan honno (B4248).
Teithio o Lundain
Gan deithio o Lundain a de-orllewin Lloegr dilynwch yr M4 tua'r Gorllewin a gadael ar Gyffordd 25A (Casnewydd). Cymerwch yr A4042 cyn belled â Phont-y-pŵl. Wrth y gylchfan (McDonalds) cymerwch y troad cyntaf a dilyn yr A4043 i Flaenafon, gan ddilyn arwyddion Pwll Mawr.
I ddefnyddio cynllunwyr ffordd ar-lein ewch i’r gwefannau canlynol:
I ddefnyddio Systemau Llywio â Lloeren (Sat-Nav)
Os ydych yn defnyddio system llywio a lloeren, mae codau post y prif atyniadau fel a ganlyn:
- Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru - NP4 9XP
- Gwaith Haearn Blaenafon - NP4 9RN
- Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon - NP4 9AS neu (NP4 9AE ar gyfer rhai systemau llywio)
- Amgueddfa Gymunedol Blaenafon ac Alexander Cordell - NP4 9QA
- Rheilffordd Treftadaeth Blaenafon (Lein Aros) - NP4 9SF
- Canol Tref Blaenafon - NP4 9NF
Ar y Rheilffordd
Mae’r gorsafoedd trenau agosaf i Flaenafon wedi eu lleoli yn Y Fenni, Y Dafarn Newydd, Cwmbrân a Chasnewydd.
Mae yna gysylltiadau rheolaidd i Gasnewydd o Paddington, Llundain, Bryste a Chaerdydd; ac i’r Fenni o Birmingham New Street a Manchester Piccadilly.
Bydd angen dal bws neu dacsi i gwblhau eich siwrnai i Flaenafon.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.traveline-cymru.info
By Bus
Gwasanaeth bws X24 sy’n gwasanaethu Blaenafon ac mae’n cysylltu â Blaenafon, Abersychan, Pont-y-pŵl, Cwmbrân a Chasnewydd. Fel rheol, mae’r bysiau’n gadael bob 10 munud yn ystod yr wythnos.
Mae Stagecoach 30, gwasanaeth awr, hefyd yn rhedeg o Frynmawr i Gasnewydd, drwy Flaenafon ac yn galw ym Mhwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru.
Gan deithio o’r Fenni gallwch ddal bws Stagecoach X4 i Frynmawr a newid i wasanaeth Stagecoach 30 i gwblhau eich siwrnai i Flaenafon.
Os ydych am deithio i Flaenafon ar fws o Gaerdydd neu Henffordd, mae angen dal gwasanaeth Stagecoach X3 a newid i wasanaeth X24 yng Nghwmbrân neu Bont-y-pŵl.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch amserlenni a’r gwasanaeth sydd ar gael ewch i www.traveline-cymru.info
Hedfan
Os ydych yn ymwelydd rhyngwladol, yn hedfan i mewn i Brydain Fawr, y meysydd awyr agosaf i Flaenafon yw Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd a Maes Awyr Rhyngwladol Bryste. Mae modd hedfan i'r ddau faes awyr o Ewrop ac Unol Daleithiau America.
Yna, defnyddiwch yr heol, rheilffordd neu’r bws i orffen eich siwrnai i Flaenafon.
I gael mwy o wybodaeth:
- Maes Awyr Caerdydd - Ffôn: 01446 711111 - www.cwlfly.com
- Maes Awyr Bryste - Ffôn: 0870 1212 747 - www.bristolairport.co.uk