Taith o Fannau Brycheiniog

Os yw eich cynlluniau gwyliau wedi'u lleoli ym Mannau Brycheiniog, yna mae diwrnod allan yn Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon yn ychwanegiad gwych. Gallwch yrru i mewn i Safle Treftadaeth y Byd o gamlas Aberhonddu a Mynwy, rhyfeddod peirianyddol a adeiladwyd i gludo nwyddau amaethyddol a diwydiannol - traffordd y chwyldro diwydiannol.

Gan yrru tuag at Flaenafon byddwch yn dringo Mynydd Blorens, sydd yn dod yn adnabyddus yn y byd beicio fel "Y Tymbl", her allweddol ar lwybr Velothon Cymru.

Ar ben y bryn fe welwch Bwll y Ceidwad, cronfa ddŵr a adeiladwyd i gyflenwi’r diwydiant haearn, ond sydd wedi cael ei enwi ar ôl y cipar neu’r ceidwad a arferai fyw gerllaw. Erbyn hyn mae’n lle delfrydol i fynd am dro neu gael picnic.

Gan barhau ar hyd y B4246 gallwch alw heibio unrhyw rhai o’r atyniadau gwych (Gwaith Haearn Blaenafon, Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon neu Bwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru er enghraifft) a llenwi eich diwrnod drwy ddarganfod sut y gwnaeth y dref hon chwarae rhan mor bwysig yn y chwyldro diwydiannol.

Pan fyddwch wedi penderfynu ei bod yn amser dychwelyd i’ch llety, gadewch ar y B4248 tuag at Frynmawr, lle gallwch naill ai gymryd yr A465 neu’r ffordd brydferth i Fannau Brycheiniog ar y B4560.