Diwydiant a Chwrw
Mae'r cysylltiad rhwng y diwydiant a chwrw yn ymestyn yn ôl i'r chwyldro diwydiannol (pan oedd cwrw yn well i chi na dŵr) - felly mae hwn yn gyfuniad delfrydol ar gyfer diwrnod allan ar Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon.
- Cyrraedd Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon. Darganfyddwch y rôl oedd gan yr ardal i’w chwarae yn y Chwyldro Diwydiannol yn ystod y 19eg Ganrif.
- Mynnwch dro bach i fyny i weld Gwaith Haearn Blaenafon. Cafodd ei adeiladu ym 1789, a gallwch grwydro’r olion helaeth a bythynnod y gweithwyr yn ogystal â blasu golygfeydd a seiniau’r gwaith haearn yn ei anterth.
- Naill ai gyrrwch y siwrnai fer neu cerddwch y daith 20 munud i Bwll mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru. Mentrwch dan y ddaear a chael blas o sut beth oedd hi i fod yn löwr.
- Drws nesaf i Bwll Mawr mae Bragdy Chanolfan Ymwelwyr Rhymni. Darganfyddwch hanes Cwr Go Iawn yng Nghymoedd De Cymru a gwyliwch y broses bragu. Peidiwch â gadael tan i chi flasu ychydig o’r cyrfau arobryn.