Dosbarth rhithwir
Mae amrywiaeth eang o brofiadau a gweithgareddau dysgu rhithwir ar gael i chi er mwyn dysgu am hanes Blaenafon. Sut beth oedd gweithio a byw yno yn y 1800au, a pham y mae Blaenafon mor bwysig fel y cafodd Statws Safle Treftadaeth y Byd yn 2000?
Canolfan Dreftadaeth y Byd – Dosbarth Fictoraidd Rhithwir
Profiad trochi yn y dosbarth, gyda’n Meistres Ysgol Fictoraidd. Bydd y wers yn cynnwys sut i gyfarch eich athro neu athrawes yn y ffordd briodol, sut i ymddwyn a gwisgo ar gyfer yr ysgol yn y cyfnod Fictoraidd, ynghyd â’r defnydd o’r Gymraeg yn y dosbarth. Hefyd, rôl crefydd yn yr ysgol a’r gwersi pwysicaf a oedd yn cael eu dysgu. Bydd y dosbarth yn gwylio ffilm am y daith i’r ysgol gan 2 o blant yr oes Fictoraidd ac yna’n cael y dasg o ddisgrifio eu taith hwythau i’r ysgol.
Bydd ein meistres yn yr ysgol yn gwisgo gwisg yr oes ac yn chwarae’r rôl ar gyfer y gweithdy cyfan. Mae gwisg yr oes yn ddewisol ar gyfer eich dosbarth.
Gwyliwch Rhithbrofiad Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon yma ac yna dewiswch ‘Dosbarth Rhithiol’.
Os ydych yn athro neu athrawes sy’n bwriadu mynd â’ch dosbarth ar ‘daith ysgol rithwir’ o amgylch Canolfan Dreftadaeth y Byd Blaenafon, lawrlwythwch y ‘Canllaw i’r Daith Rithwir’ yma fel adnoddau dysgu i fynd gyda thaith arlein eich disgyblion a’ch helpu chi i ddatblygu eich gwers eich hun.
A dyma’r ddolen ble gallwch lawrlwytho fideo o’r ysgol.
Amgueddfa Lofaol Genedlaethol y Pwll Mawr
Taith realiti rhithwir dan-ddaear
Mae’r daith rithwir hon yn rhoi blas i chi o sut beth yw mynd dan-ddaear yn y Pwll Mawr ac yn rhoi mynediad i’r sawl a fyddai fel arall yn cael anhawster mynd i’r safle.
I gymryd rhan yn y daith, gallwch lawrlwytho ap Google Expeditions am ddim ar lechen neu ffôn naill ai o Google Play neu’r App Store. Gan ddefnyddio Google Expeditions, gall athro arwain y daith o’u llechen tra bo’r disgyblion yn crwydro’r lle ar eu ffôn. Rhoddir y ffonau mewn syllwyr sy’n caniatáu i’r crwydrwyr weld panoramas 360° a delweddau 3D.
Rhagor am y daith realiti rhithwir danddaearol yn y Pwll Mawr yma.
Ymweliadau Rhithwir yn y Cyfnod Clo
Mae Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru yn cynnig ‘Ymweliadau Rhithwir yn y Cyfnod Clo’, gan gysylltu â’ch dosbarth os ydych yn gweithio o gartref neu o’r ysgol.
Maent wedi addasu rhai o’u gweithdai Amgueddfa mwyaf poblogaidd yn brofiadau rhithwir! Trefnwch sesiwn a chysylltwch â nhw drwy Microsoft Teams. Mae’r sesiynau yma ar hyn o bryd am ddim i ysgolion.
Gallwch weld yr Ymweliadau Rhithwir yn y Cyfnod Clo yma.
Gwaith Haearn Blaenafon
Mae Cadw yn parhau i ychwanegu adnoddau digidol newydd i’w tudalennau Dysgu i gynnig profiadau dysgu cyffrous ac ymestynnol yn y dosbarth neu gartre. Mae’r rhain yn cynnwys ffilmiau o gymeriadau hanesyddol, ryseitiau blasus, adrodd straeon, dramâu, cerddoriaeth, gemau, posau a chenadaethau.
Dewch yn ôl at y tudalennau hyn o bryd i’w gilydd i ganfod adnoddau newydd, gan eu bod yn cael eu diweddaru yn rheolaidd. Bydd yr adnoddau hyn yn helpu i gyfoethogi a gwella profiad ymweliadau pan fydd Cadw yn gallu croesawu eich grwpiau yn ôl i’w safleoedd.
Gallwch weld tudalennau Dysgu Cadw yma