Treflun Blaenafon
Mae Canol Tref Blaenafon yn cynnwys llawer o adeiladau diddorol sy'n ein helpu i ddeall stori Cymoedd De Cymru. Dechreuodd Broad Street, prif stryd siopa Blaenafon, ddatblygu o'r 1840au. Erbyn y 1880au roedd dan ei sang â'r holl weithgarwch!
Mae Broad Street a'r strydoedd cyfagos yn cynnwys amrywiaeth o siopau, tafarndai, capeli ac adeiladau dinesig. Maent yn atgofion pwysig o hanes cymdeithasol a thraddodiadau diwylliannol de Cymru ddiwydiannol yn y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif.
Mae'r tudalennau gwe hyn yn adrodd hanes treflun Blaenafon a'r bobl a oedd yn byw, gweithio, siopa ac addoli yn y dref.
Am hanes mwy manwl Treflun Blaenafon, lawr lwythwch Hanes Treflun Blaenafon.