Blaenafon Rithwir

Ymwelwch â Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon o gysur eich cartref neu’r ystafell ddosbarth gydag amrywiaeth o brofiadau a gweithgareddau rhithwir! Mae atyniadau ar draws Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon wedi creu amrywiol gasgliadau, erthyglau, cwisiau, ffilmiau a theithiau rhithwir arlein i chi eu mwynhau.

Os na allwch ymweld ar y funud, os ydych eisiau cynllunio ymweliad yn y dyfodol neu os ydych eisiau ychydig o hwyl wedi ei ysbrydoli gan dreftadaeth, mae yna rywbeth i bawb!

Canolfan Dreftadaeth y Byd Blaenafon

Mwynhewch amrywiaeth o brofiadau rhithwir yng Nghanolfan Dreftadaeth y Byd Blaenafon. Crwydrwch yr adeilad a mynd drwy’r amgueddfa gyda’n taith rithwir; chwiliwch yn yr adeilad am gliwiau i ateb y cwestiynau cwis; neu ewch yn ôl mewn amser i weld sut le oedd y Ganolfan Dreftadaeth yn ei bywyd blaenorol fel Ysgol San Pedr.

Cwis Rhithwir

Profwch eich gwybodaeth o Flaenafon a’i hanes. Ydych chi’n gwybod pam y daeth yn Safle Treftadaeth y Byd? Neu pwy a sylfaenodd Ysgol San Pedr? Archwiliwch yr ystafelloedd yng Nghanolfan Dreftadaeth y Byd i ddarganfod y cliwiau i’r cwestiynau!

Dosbarth Fictoraidd Rhithwir

Cewch gyfarfod ein Hathrawes Ysgol Fictoraidd yn Ysgol San Pedr a fydd yn eich dysgu sut roedd angen i blant ysgol ymddwyn a gwisgo yn yr ysgol yn oes Fictoria. Cewch wybod pam fod gwgu ar siarad Cymraeg yn y dosbarth a dysgu pa wersi a oedd yn cael eu dysgu yn y dosbarth.

Gallwch weld Taith Canolfan Dreftadaeth y Byd Blaenafon yma.

Ffilm Blaenafon

Taith drwy Dirwedd Ddiwydiannol Blaenafon. Darganfod Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon o’r awyr. Mae’r ffilm unigryw ac ysbrydoledig hon yn mynd â chi ar daith drwy Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon ac mae’n cynnwys ffilm hynod o’r safle diwydiannol hanesyddol sydd yno i gael ei grwydro gennych chi.

Gallwch weld Ffilm Blaenafon yma.

Profiad Realiti Rhithwir

Teithio yn ôl mewn amser ar Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon a phrofi’r 18eg ac 20fed ganrif gyda’n ffilmiau 360 realiti rhithwir. Cewch weld y Ganolfan Dreftadaeth fel yr oedd yn y 19eg ganrif fel Ysgol San Pedr. Cyfle i gyfarfod â Sarah Hopkins, sylfaenydd yr ysgol, a oedd yn aml yn ymweld â’r lle i weld sut oedd cynnydd plant y glöwyr yn mynd.

Gallwch weld Teithio Trwy Amser yn Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon yma.

Amgueddfa Lofaol Genedlaethol y Pwll Mawr

Taith realiti rhithwir dan-ddaear

Mae’r daith rithwir hon yn rhoi blas i chi o sut beth yw mynd dan-ddaear yn y Pwll Mawr ac yn rhoi mynediad i’r sawl a fyddai fel arall yn cael anhawster mynd i’r safle.

I gymryd rhan yn y daith, gallwch lawrlwytho ap Google Expeditions am ddim ar lechen neu ffôn naill ai o Google Play neu’r App Store.

Rhagor am daith realiti rhithwir danddaearol y Pwll Mawr yma.

Teithio yn ôl Drwy Amser yn y Pwll Mawr

Profwch hanes y Pwll Mawr drwy’r 19eg a’r 20fed ganrif a chyfarfod Henry, glöwr, sy’n eich tywys drwy’r profiad o fwyngloddio yn y cyfnod hwn. Ewch yn ôl drwy amser ar Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon a chael profiad personol o’r 19eg a’r 20fed ganrif gyda’n ffilmiau realiti rhithwir.

Rhowch gynnig ar Brofiad Teithio Drwy Amser Pwll Mawr

Gwaith Haearn Blaenafon

Dyma fyd diwydiannol y gwaith haearn o’r 18fed ganrif sydd wedi ei warchod orau yn y byd, sef Blaenafon. Gyda saith sgan 3D manwl iawn, gallwch archwilio’r safle gwaith haearn unigryw hwn heb unrhyw gyfyngiad.

Gallwch weld Taith Rithwir Gwaith Haearn Blaenafon yma.

Tref Dreftadaeth Blaenafon

Teithiwch yn ôl drwy amser ar Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon a phrofi’r 19eg a’r 20fed ganrif yn bersonol gyda’n ffilmiau realiti rhithwir. Gallwch weld tref Blaenafon fel yr oedd yn y 1900au cynnar pan roedd teuluoedd o löwyr yn byw yng nghanol y dref. Gallwch gyfarfod Mary Underwood, a oedd yn cadw siop ar y pryd, ac sy’n eich tywys drwy ddiwrnod ym mywyd Broad Street.

Rhowch gynnig ar Brofiad Teithio Drwy Amser Tref Treftadaeth Blaenafon

Pecyn Rhanddeiliaid

Mae ein taith rithiol newydd sbon o Ganolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon wedi lansio ac rydym yn gofyn i’n rhanddeiliaid a phartneriaid i’n helpu ni i ledaenu’r gair.

P’un ai yw hynny’n rhannu ein taith yn y cyfryngau cymdeithasol neu yn eich cylchlythyrau, rydym yn ddiolchgar am unrhyw gefnogaeth a fydd yn annog mwy o bobl i gael profiad o hanes cyfoethog Blaenafon.

Gwelwch y ffyrdd o’n cefnogi yn ein pecyn cymorth.

A dyma’r ddolen ble gallwch lawrlwytho fideo o’r ysgol.