Crwydrwch barc rhanbarthol ehangach y cymoedd

Ym mis Medi 2019, cafodd Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon ein henwi’n yn un o ddeuddeg safle’r Pyrth Darganfod ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd.

Yn ymestyn o Gaerfyrddin i Bont-y-pŵl a Phen-y-bont ar Ogwr i Ferthyr Tudful, mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd i bawb sy'n byw, yn gweithio neu'n ymweld â Chymoedd De Cymru. Mae’r dirwedd unigryw hon yn addo profiadau cofiadwy i bawb: o aelodau’r teulu o bob oed, i gerddwyr, y rhai sy’n frwd dros gadw’n heini ac i’r rhai sydd am ddod o hyd i gyfeillgarwch newydd neu gyfleoedd gwirfoddoli. Darganfyddwch straeon anhygoel y Cymoedd a dysgwch fwy am eu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog trwy gwrdd â phobl mewn trefi a phentrefi cyfagos, beth am helpu i ddiogelu’r tirweddau ysbrydoledig, neu'n syml, mwynhau mynd allan i gael chwa o awyr iach; mae'r dewisiadau mor amrywiol â'r dirwedd newidiol.

Mae’r Pyrth Darganfod yn fan cychwyn i chi ymdrochi yn y dirwedd naturiol a deall mwy am hanes Cymoedd De Cymru. Mae Pyrth Darganfod yn lleoedd lle gallwch chi gael hwyl, crwydro’r dirwedd a darganfod mwy am fywyd gwyllt lleol a chynefinoedd natur. Fe wnaeth Parc Rhanbarthol y Cymoedd enwi Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon yn Borth Darganfod oherwydd ei bod yn un o’r nifer o leoedd rhyfeddol y gallwch fynd ati i ddarganfod yng Nghymoedd De Cymru.

Dysgwch mwy am Byrth Darganfod eraill sy’n ffurfio Parc Rhanbarthol y Cymoedd: