Taclo'r Tymbl

Dringfa Tymbl yw un o'r dringfeydd beicio mwyaf enwog yng nghymoedd De Cymru. Yn 6km o hyd ac ar ogwydd o 10%, araf a chyson yw'r gyfrinach i gyrraedd copa'r Blorens. Mae'r ddringfa enwog wedi ymddangos mewn sawl digwyddiad dros y blynyddoedd, gan gynnwys Taith Prydain ac mae'n rhan annatod o Velothon Nghymru bob blwyddyn.

Mae mynd i'r afael â'r Tymbl yn hanfodol ar restr unrhyw feicwyr. Cychwynnwch ar her bersonol ac archwilio'r ardal ar ddwy olwyn a pharatoi eich hun ar gyfer achlysur unwaith mewn oes. Ac am ei bod yn Flwyddyn Antur yma yng Nghymru beth am gymryd rhan yn Her y Tymbl, a chofnodi eich ymdrechion ar y Tymbl ar Strava ac fe allech fod yn Frenin neu Frenhines newydd ar y mynydd.

Er mwyn mynd ati i gynllunio’ch taith, rydym wedi paratoi’r penwythnos beicio delfrydol i ffwrdd ar eich cyfer, fel ewch amdani a thaclo her y Tymbl.

To help you get your trip planned we’ve put together the perfect cycling weekend away for you, so head out and take part in the Tumble Challenge.

  • Diwrnod 1 - Cyrraedd eich llety sy'n croesawu beicwyr, gyda chyfleusterau ar eich cyfer chi a'ch beic. Beth am bryd o fwyd cartref wedi ei lwytho â charbohydrad i'ch paratoi ar gyfer y beicio, y diwrnod wedyn?
  • Diwrnod 2 - beth am ddechrau’r dydd gyda brecwast llawn, Cymreig. Mae nifer o letywyr hefyd yn cynnig gwasanaeth pecyn bwyd, y gallwch ei brynu i fynd gyda chi ar eich beic. Yna ewch amdani i daclo’r Tymbl fel rhan o’ch diwrnod ar y ffordd, a beth am roi cynnig arni i gael eich enw ar frig rhestr Taclo’r Tymbl, a chofnodi eich ymdrechion ar 100 swyddogol y Tymbl ar Strava. Dyma rhai syniadau o’r llwybrau o wahanol hydoedd y gallwch eu dilyn, pob un ohonynt yn cynnwys dringo’r Tymbl.
  • Diwrnod 3 - Crwydrwch y cymoedd, eu bryniau (yr ucheldir a'r iseldir) a'r golygfeydd. Mae'r cymoedd yn llawn llwybrau beicio i'w crwydro, gyda llawer o lwybrau rhwydwaith beicio cenedlaethol yn rhedeg drwy'r ardal. Ewch i sustrans.org.uk i gynllunio eich 2il ddiwrnod o feicio.

Awgrymiadau da:

  • Pasio caffi? Beth am egwyl fach i gael rhywbeth bach blasus ar y ffordd, blasu ambell i gacen fach leol fel Bara Brith neu Bicen ar y maen
  • Ar ddiwedd y dydd beth am orffen mewn tafarn gwledig i gael ychydig o danwydd ar gyfer y daith yfory

Wedi taclo’r Tymbl? Rhannwch eich ymdrechion a’ch lluniau gyda ni ar ein tudalennau Facebook neu Twitter gan ddefnyddio #thetumble

This content is hosted by a third party. By showing the external content you accept these terms and conditions.