Crwydro Tref Dreftadaeth Blaenafon
Cyn i'r Gwaith Haearn gael ei sefydlu yn y 1780au, roedd Blaenafon yn anheddiad bychan iawn gyda ffermwyr yn byw bywyd tawel yn eu cartrefi anghysbell.
Ar ôl agor y Gwaith Haearn cafodd pobl o bob cwr o'r DU ac ymhellach i ffwrdd, eu hannog i deithio i Flaenafon i chwilio am waith. Felly tyfodd y dref, daeth y strydoedd yn fwrlwm o siopau, capeli, tai cwrw a chartrefi teuluol. De wnaeth dyfodiad y rheilffyrdd ac agoriad y pyllau glo annog ehangu pellach, gan arwain at y dref y gallwch ei chrwydro heddiw.
Fel rhan o'ch ymweliad â Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon sicrhewch eich bod yn crwydro'r dref, a hithau ond ychydig o funudau ar droed o Ganolfan Treftadaeth y Byd, lle, yn ogystal â darganfod hanes y dref, y cewch hefyd gyfle i ymweld â rhai o'r manwerthwyr unigryw - yn cynnwys siopau arbenigol a bwytai chroesawgar.
Gallwch lawr lwytho "Pasbort Digidol Blaenafon" a mynd ar daith clywedol o amgylch Tref Dreftadaeth Blaenafon gyda’r tywysydd “Lewis Browning” a arferai fyw ym Mlaenafon ym 1906, neu beth am godi taflen o’r daith o Ganolfan treftadaeth y Byd Blaenafon, neu lawr lwytho fersiwn pdf yma (Taith Tref Blaenafon).