Hanesion Cudd Blaenafon

Mae’r prosiect ffilm cymunedol hwn yn mynd ati i archwilio’r bobl allweddol a ddylanwadodd ar siâp tref Blaenafon yn ystod oes Fictoria, a’u dathlu.

Mae ‘Hanesion Cudd Blaenafon’ yn rhoi anadl einioes i bortreadau hanesyddol a ddangoswyd yn Amgueddfa Gymunedol Blaenafon yn Neuadd y Gweithwyr Blaenafon yn ogystal â straeon llai adnabyddus.

Ceir hefyd dystiolaethau cyferbyniol cymeriadau dychmygol pobl ifanc yr oedd y gwelliannau ym maes addysg ac argaeledd addysg wedi dylanwadu arnynt yn ystod y cyfnod.

This content is hosted by a third party. By showing the external content you accept these terms and conditions.

Pobl leol fu’n gwneud y gwaith ymchwilio ac yn sgriptio’r ffilm, gan gynnwys pobl ifanc a grwpiau fel:

Crëwyd y ffilm gan Cymru Creations, sef cwmni ffilmiau yn Nhredegar.

Pobl leol yw’r actorion a’r actoresau sy’n serennu yn y ffilm.

Dyfyniadau gan gyfranogwyr:

“Roeddwn i wrth fy modd yn cymryd rhan mewn prosiect i Flaenafon a nawr rydw i’n falch o bwy ydw i a sut y mae Blaenafon wedi datblygu. Cafodd y ffilm ei rhoi at ei gilydd mewn ffordd wych. Roeddwn i wrth fy modd â’r cyfle”.

“Roeddwn i’n teimlo bod mewnbwn y gymuned yn arbennig. Roedd yn dangos yr ysbryd cymunedol a oedd ar waith ym Mlaenafon. Roedd yn eithaf clyfar, ac yn cyflwyno hiwmor i’r naratif a oedd yn cael ei gyflwyno trwy hanes Blaenafon”.

Yn y ffilm ceir 11 o gymeriadau hanesyddol:

  • Cymeriad 1: Mildred Clara Davies (Enghraifft i ysbrydoli, o fferyllydd benywaidd a gymerodd awenau busnes y teulu ar Broad Street)
  • Cymeriad 2: Y Cynghorydd Charles White YH/Ynad Heddwch (Ganed yng Ngwlad yr Haf, crefftwr medrus a ddaeth yn Rheolwr ar Blaenavon Gas and Water Works)
  • Cymeriad 3: Walter Henry Hughes (Ganed 1859, teiliwr ar Broad Street a sefydlodd Sefydliad y Gweithwyr cyntaf Blaenafon)
  • Cymeriad 4: William Lewis Cook (Ganed 1876, un a oedd yn angerddol dros wella addysg ac amodau gweithio a byw)
  • Cymeriad 5: Sarah Hopkins (Sylfaenydd Ysgol San Pedr yn 1816)
  • Cymeriad 6: Y Cynghorydd Henry Morgan Davies YH/Ynad Heddwch (Fferyllydd a deintydd ar Broad Street a aeth ati i wella safonau byw)
  • Cymeriad 7: John Griffith Williams (Roedd yn allweddol wrth greu Broad Street ac mewn datblygiadau mewn cyfleustodau, gan gynnwys goleuadau stryd)
  • Cymeriad 8: David Watkins (Disgybl 10 mlwydd oed yn ysgol Sarah Hopkins)
  • Cymeriad 9: Evan Evans (Cyfaill i David sy’n gorfod gweithio ac yn methu â mynd i’r ysgol)
  • Cymeriad 10: Sian Price (Merch 8 mlwydd oed, mae angen help ar ei rhieni gyda thasgau o amgylch y cartref ac felly nid yw’n cael mynd i’r ysgol)
  • Cymeriad 11: Megan Jones (Mae’n mynd i’r ysgol ac wrth ei bodd yn dysgu, ac mae am fod yn ddisgybl-athro)