Digwyddiadau Cymunedol
Bydd tîm RhTT yn cefnogi nifer o ddigwyddiadau trwy gydol y cyfnod cyflenwi. Y bwriad yw cefnogi’r gymuned leol i gael gwybodaeth a mynediad i ddigwyddiadau a gweithgareddau.
Mae Tîm RhTT yn fwy na bodlon mynychu cyfarfodydd lleol i rannu gwybodaeth ynglŷn â’r grant yma a’r camau hyd yn hyn.
Rydym hefyd yn defnyddio siopau gwag a blaenolygon siopau i hyrwyddo hanes yr ardal a hybu’r gwaith sy’n cael ei wneud. Mae arddangosfeydd yn cael eu cynnal hefyd mewn mannau lleol fel Canolfan Treftadaeth y Byd.
Mae’r llun isod yn dangos y panelau ar fenthyg gan Amgueddfa Gymunedol Blaenafon, yn hybu treftadaeth gyfoethog yr ardal fel y’i disgrifir yn nhrioleg enwog Alexander Cordell.