Grŵp Hanes Treftadaeth Blaenafon
Mae’r grŵp yma o selogion hanes lleol wedi creu llyfr newydd yn seiliedig ar wyliau a ffeiriau ym Mlaenafon. Mae’r llyfr wedi ei roi i amryw o leoliadau cymunedol, llyfrgelloedd ac ysgolion i hybu rhannu hanes yr ardal.
Mae’r grŵp cymunedol hynod o weithgar yma wedi cyhoeddi nifer o lyfrau diddorol eraill am Flaenafon. Mae’r rhain ar gael i’w benthyca trwy Lyfrgell Blaenafon, neu ar werth yn Amgueddfa Gymunedol Blaenafon yn Neuadd y Gweithwyr.