Gweithdai Adeiladau Treftadaeth
Mae Rhaglen Treftadaeth Treflun Blaenafon yn gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Ddinesig Blaenafon a Chanolfan Tywi i gyflwyno cyfres o weithdai ar-lein AM DDIM sy'n canolbwyntio ar warchod, cynnal a chadw adeiladau yn Ardal Gadwraeth Blaenafon. Hyd yma, rydym wedi cynnal tri gweithdy a oedd yn cynnwys:
Gweithdy 1 - Dydd Llun 12fed Gorffennaf, 6pm- 8pm
Deall eich hen adeilad – beth sy’n gwneud hen adeilad yn wahanol i adeilad newydd?
- Hynodrwydd lleol – pwysigrwydd i’n cymunedau
- Deunyddiau a dulliau lleol
- Arwyddocâd – cysylltiadau gyda’r gorffennol a chadw adeiladau I genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau
- Rhestru ac amddiffyniad cyfreithiol arall
Gweithdy 2 - Dydd Llun 19eg Gorffennaf, 6pm-8pm
Pam y mae angen i hen adeiladau anadlu: adeiladwaith, deunyddiau a dulliau hanesyddol
- Calch – priodoleddau a defnydd
- ‘Gallu anadlu’
- Canlyniadau defnyddio deunyddiau amhriodol
- Adeiladau ac iechyd
- Cynaliadwyedd
Gweithdy 3 - Dydd Llun 9eg Awst, 6pm-8pm
Trwsio a chynnal a chadw
- Achosion mwyaf cyffredin o bydredd mewn hen adeilad
- Manteision cynnal a chadw da - cadw gwerth, ymdeimlad o falchder, cynllunio a chyllidebu ar gyfer gwaith drutach
- Manteision atgyweirio da - arbed arian, atal problemau mwy difrifol
- Rhestrau gwirio cynnal a chadw
Gweithdy 4 – Dydd Mercher 21 Medi 2022, 10am – 1pm (Capel Bethlehem)
Gwaith cynnal, cadw a thrwsio hanfodol
- Deall yr achosion mwyaf cyffredin o bydredd mewn hen adeiladau
- Cynnal archwiliadau syml
- Cyfyngu ar atgyweiriadau costus yn y tymor hirach
- Dod o hyd i gyngor mwy arbenigol pan fydd ei angen
Gweithdy 5 – Dydd Mercher 28 Medi 2022, 10am – 1pm (Capel Bethlehem)
Effeithlonrwydd Ynni mewn adeiladau hŷn
- Sut mae deunyddiau adeiladu a chyflwr adeilad yn effeithio ar Effeithlonrwydd Ynni
- Opsiynau sydd ar gael, o addasiadau syml i ymyriadau mawr
- Manteision ac Anfanteision y gwahanol opsiynau
- Cyfreithiau a Rheoliadau
Gweithdy 6 – Dydd Sadwrn 1 Hydref, 10am – 1pm (Capel Bethlehem)
Cymhorthfa Hen Dŷ
- Y pethau cyffredin sy’n achosi diffygion mewn adeiladau
- Taith gerdded o amgylch tref Blaenafon i amlygu enghreifftiau o arfer da o atgyweirio, cynnal a chadw, a newidiadau i adeiladau hŷn.
- Cyfle i drafod y materion penodol yr ydych yn eu hwynebu yn eich adeilad
Mae’r PDFs isod yn cynnig gwybodaeth i chi sy’n ymwneud â’r gweithdai dan sylw.
- Deall Adeiladau Traddodiadol – Adeiladu Traddodiadol
- Deall Adeiladau Traddodiadol – Sut Mae Hen Adeiladau’n Gweithio
- Cyflwyniad: Deall Adeiladau Traddodiadol
- Cyflwyniad: Pam mae angen i hen adeiladau anadlu
- Deg awgrym da ar gyfer cynnal a chadw eich adeilad
Gwefan: www.blaenavoncivicsociety.com
Facebook: www.facebook.com/blaenavoncivic