Gorymdaith Diwrnod Treftadaeth y Byd
Dros gyfnod o bedair blynedd, fe weithiodd y RhTT gyda Phwyllgor Treftadaeth y Byd, a arweiniodd at gyfleoedd i Ysgol Bryn Onnen ac Ysgol Wirfoddol Treftadaeth Blaenafon, gymryd rhan mewn tair gorymdaith. Cynhaliwyd cyfres o weithdai i archwilio hanes a threftadaeth y dref ac i greu eitemau ar gyfer gorymdaith Diwrnod Treftadaeth y Byd.
Roedd Gorymdaith 2019 yn canolbwyntio ar ‘bobl sy’n ein helpu’
Oherwydd Covid, cafodd y digwyddiad yn 2020 ei ganslo, ond yn 2021 crëwyd digwyddiad 'cyfryngau cymdeithasol'. Gweithiodd Head4Arts gydag Ysgol Bryn Onnen Ac Ysgol W a R Blaenafon i greu Oriel Gelf ar lein, a barddoniaeth yn seiliedig ar: "Cydnabod gwerth canol ein tref". Gellir gweld y rhain ar www.head4arts.org.uk
Yn 2022, braf oedd croesawu’r orymdaith flynyddol unwaith eto, gyda’r ysgolion yn canolbwyntio ar y siopau lleol. Er gwaetha’r glaw, cynhaliwyd y digwyddiad ddydd Sadwrn 25 Mehefin.
Mae’r lluniau isod yn dangos y cynnyrch bwyd a wnaed gan Ysgol Bryn Onnen ac Ysgol W a R Treftadaeth Blaenafon, i gynrychioli’r siopau o Oes Victoria a’r nwyddau yr oeddent arfer eu gwerthu ym Mlaenafon.