Cyfalaf

Mae’r arian grant cyfalaf yn cael ei ddefnyddio i gadw a gwella cymeriad a gwedd Ardal Cadwraeth Blaenafon. Mae hyn yn cynnwys ymgymryd ag atgyweiriadau sy’n ystyrlon o gadwraeth i adeiladau hanesyddol sy’n gymwys a, ble bynnag y bo hynny’n bosibl, dychwelyd adeiladau at ddefnydd tra’n amddiffyn a gwella cyfansoddiad a chymeriad adeiladau hanesyddol.

Mae gwaith cymwys yn cynnwys llechi newydd ar doeau, nwyddau dwr glaw haearn bwrw, ffenestri ac wynebau siopau sy’n deimladwy o ran cadwraeth a rendro calch.

Mae yna restr osodedig o eiddo sy’n wedi eu nodi ar gyfer ystyriaeth o grant yn seiliedig ar leoliad, cyflwr ac ymrwymiad y perchennog i gyfrannu swm cyfatebol at y prosiect yn ystod datblygiad CBS Torfaen o’r rhaglen.

Mae’r rhaglen gyfalaf yn gofyn bod pob gwaith a ariennir trwy grant yn cael ei gwblhau cyn Medi 2023.

Bethlehem Chapel

Adeilad rhestredig Gradd II yw Capel Bethlehem. Mae’r prif fan ymgynnull wedi cau ers degawd.

Rhoddwyd y caniatâd statudol gofynnol, tendro gan gontractwyr a chyflwyno ceisiadau a chaniataodd hyn i’r grant RhTT gael ei gymeradwyo yn Rhagfyr 2018 gyda’r ymgeiswyr yna’n rhoi arian cyfatebol o Raglen Datblygu Gwledig Cymru.

Dechreuodd y cynllun yn Ionawr 2019 a daeth i ben ym Medi 2019.

Rhoddodd y RhTT arian i gefnogi gwaith amlennu allanol a oedd yn cynnwys to newydd, nwyddau dŵr glaw, fframiau a drysau tebyg am debyg a rendro calch ac atgyweiriadau cydgyfnerthu cyflenwol i ragfuriau carreg a waliau’r ymestyniad i’r ochr a thrwsio portico’r fynedfa. Roedd cyfraniadau effeithlonrwydd ynni o’r RhTT yn cynnwys unedau ffenestri gwydr dwbl a defnydd ynysu o wlân yng ngofod y to er mwyn cael adeiladu mwy effeithlon o ran ynni. Roedd yna atgyweiriadau mewnol hefyd a mesurau effeithlonrwydd ynni a ariannwyd gan y RhTT. Mae’r prosiect yn galluogi dychwelyd yr adeilad cyfan i ddefnydd cynaliadwy tymor hir i’r gymuned yng nghalon Broad Street.

Bethlehem Chapel External ViewBethlehem Chapel Internal View

HM Stores

Arferai HM Stores, 1 Market Street fod yn siop gigydd a ddaeth yn siop gornel Morgan’s ar ddiwedd yr 20fed ganrif

Crëwyd Market Street yn wreiddiol ym 1840 gan John Griffith Williams, fel y farchnad dan do gyntaf ym Mlaenafon.

Cafwyd caniatâd statudol, tendrau contractwr a chyflwynwyd y cais, felly’n caniatáu i’r grant RhTT gael ei gymeradwyo ym mis Mai 2020

Dechreuodd y cynllun ym mis Gorffennaf 2020.

Mae'r RhTT wedi dyrannu cyllid i gefnogi'r gwaith amlen allanol a oedd yn cynnwys to newydd, nwyddau dŵr glaw, fframiau ffenestri a drysau newydd, gwaith rendro gyda chalch ac arwyddion newydd.

Mae’r prosiect yn caniatáu i’r adeilad cyfan gael ei ddefnyddio unwaith eto, mewn modd cynaliadwy yn y tymor hir, a hynny ar gyfer busnes lleol mewn lleoliad allweddol ym Mlaenafon.

Exterior view of HM Stores, showing new signage and door replacement

Yr Hwb

69-70 Broad Steet, Yr Hwb, a arferai gael ei alw yn The Doorway.

Mae’r adeilad hwn yn cynnwys dau adeilad a arferai fod yn siopau. Arferai Rhif 69 fod yn siop losin, groser, delwyr te, a siop ffasiwn i fenywod. Arferai Rhif 70 fod yn Fferyllydd, Deintydd, Drygist, a siop groser. Mae’r adeilad erbyn hyn yn darparu gwasanaethau i bobl ifanc.

Cafwyd caniatâd statudol, tendrau contractwr a chyflwynwyd y cais, felly’n caniatáu i’r grant RhTT gael ei gymeradwyo ym mis Ionawr 2021.

Dechreuodd y cynllun ym mis Ebrill 2021.

Mae'r RhTT wedi dyrannu cyllid i gefnogi'r gwaith amlen allanol a oedd yn cynnwys to newydd, nwyddau dŵr glaw, fframiau ffenestri a drysau newydd, gwaith rendro gyda chalch, arwyddion newydd a lloches newydd yn yr ardd, i bobl ifanc.

Bydd y prosiect yn fan cynaliadwy gwerthfawr iawn yn y tymor hir, sy’n cynnwys lloches yn yr ardd gefn i bobl ifanc Blaenafon.

Mae’r lluniau isod yn dangos y gwydr uwchben y fynedfa newydd a’r arwydd newydd sy’n hongian ar yr adeilad.

Exterior view of The Hwb, showing new signage and detailed glass design above the new entrance