Arddangosfeydd
Byddwn yn creu pedair arddangosfa mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol.
Mynavon
Mae ein harddangosfa gyntaf yn arddangosfa ddigidol a grëwyd gan bobl ifanc a’r Hwb. Ei henw yw Mynavon.
Daeth pobl ifanc Blaenafon ynghyd i edrych ar hanes yr ardal a’r hyn yr oedd hynny’n golygu iddyn nhw. Roedd hyn yn cynnwys cwrdd â grwpiau cymunedol lleol, ymweld ag adeiladau hanesyddol yr ardal a gweithio gyda Chôr Meibion Blaenafon.
Arweiniodd hyn at greu Mynavon, cerdd a ddarllenwyd i dôn Myfanwy fel y’i canwyd gan Gôr Meibion Blaenafon.
Roedd yr arddangosfa lawn yn cynnwys; cloriau CD a grëwyd gan Ysgol Wirfoddol Treftadaeth Blaenafon a chyfres o luniau a dynnwyd gan yr Hwb.
Mae’r arddangosfa ddigidol ar gael ar YouTube: https://youtu.be/vxqliv99Cxc
Chwaraeon ni’r fideo i ddisgyblion cynradd yn Ysgol Bryn Onnen ac Ysgol Wirfoddol Treftadaeth Blaenafon fel rhan o wasanaeth yr ysgol. Cafodd pob disgybl lyfryn o’r gerdd yn Gymraeg a Saesneg.
Tapestri o Dref Treftadaeth Treflun Blaenafon: Map Cof o Broad Street
Crëwyd ein hail arddangosfa gan Head4Arts, gyda’r ffocws ar ddefnyddio deunyddiau creadigol i ymgysylltu â’r grŵp oedran dros 65 oed. Arweiniodd hyn at greu “Tapestri o Dref Treftadaeth Treflun Blaenafon: Map Cof o Broad Street”.
Crëwyd y Tapestri trwy archwilio eu perthynas â chanol tref Blaenafon trwy ganolbwyntio ar brofiadau siopa bob dydd yn Broad Street dros y blynyddoedd.
Mae'r map cof rhyngweithiol hwn o Broad Street yn cyfuno eiliadau penodol mewn amser, a phersbectif gwahanol. Nid yw rhai o'r siopau yn bodoli bellach ond maent wedi'u hail-greu o ddisgrifiadau. Mae’r fath gipolwg ar hanes cymdeithasol y dref wedi’i ymwreiddio’n ddigidol i wead y gwaith celf gan ddarparu cofnod sain o’r atgofion.
Wedi’i gychwyn cyn Covid, mae’r prosiect wedi gorfod addasu i amgylchiadau, gan ddefnyddio pecynnau crefft i alluogi cyfranogwyr i helpu i greu rhannau o’r tapestri. Mae’r ‘tapestri byw’ a grëwyd o ganlyniad, yn ymgorffori gwaith cymuned sy’n byw ar wahân ond yn gweithio gyda’i gilydd i gadw a rhannu atgofion ar y cyd o hanes masnachol Blaenafon.
Gweithiodd sawl grŵp cymunedol gyda Head4Arts i greu’r tapestri, yn eu plith:
- Pobl Hŷn Blaenafon
- Trigolion Baker Street House a staff Bron Afon
- Grŵp Pontio’r Cenedlaethau, Blaenafon
- Trigolion a staff Cartref Gofal Arthur Jenkins
- Grŵp Hanes Treftadaeth Blaenafon
Dyfyniadau:
"Rwy’n meddwl ei fod yn hollol wych! Yn enwedig am ei fod wedi cael ei wneud yn ystod pandemig COVID, mae wedi dod at ei gilydd yn dda iawn ac mae’n gymorth gweledol a llafar gwych".
"Anhygoel - adnodd gwych i'r gymuned. Mae'r cynnyrch o ansawdd rhagorol. Diddorol. Bydd yn helpu i ddysgu fy mhobl ifanc".
Grŵp Hanes Treftadaeth Blaenafon; Arddangosfa Luniau o Broad Street
Crëwyd ein trydedd arddangosfa gan Grŵp Hanes Treftadaeth Blaenafon. I ddechrau, roedd yr arddangosfa hon i fod yn arddangosfa luniau draddodiadol. Fodd bynnag, tyfodd hyn i gynnwys creu ffolderi gwybodaeth sy'n darparu gwybodaeth bellach yn ymwneud â hanes y dref.
Cyflwynwyd y ffolderi i nifer o leoliadau a busnesau cymunedol gan gynnwys Amgueddfa Gymunedol Blaenafon, Gwesty'r Lion, Llyfrgelloedd, Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon a'r Caffi, i greu adnodd gwybodaeth. Cafodd ffolderi ychwanegol eu creu a'u dosbarthu i ysgolion cynradd ac uwchradd lleol. Roedd y ffolderi hyn yn cynnwys 'mewnosodiadau' ychwanegol er mwyn annog disgyblion i fynd ati eu hunain i ymchwilio i’r ardal.