Cynllun Baneri ar Sgaffaldau

Mae gweithio gyda myfyrwyr Gradd Sylfaen Coleg Gwent a grwpiau cymunedol lleol, wedi arwain at greu cyfres o faneri â lluniau lliwgar darluniadol i’w rhoi ar sgaffaldau.

Bydd y baneri’n cael eu defnyddio ar yr adeilad sy’n cael ei ariannu o dan gynllun Cyfalaf RhTT.

Treuliodd y myfyrwyr amser yn dysgu am hanes a threftadaeth Blaenafon yn Amgueddfa gymunedol Blaenafon.

"Mae’r cynllun wedi bod yn wych, gan roi profiad gwerthfawr i’n myfyrwyr darlunio a ffotograffiaeth o weithio gyda chleient i greu darluniau ar raddfa fawr gan ddefnyddio Treftadaeth Blaenafon." Kelly Rosser, Arweinydd Cwrs Gradd Sylfaen mewn Darlunio, Coleg Gwent.

Example Banners