Cydnabyddiaeth
Mae Mynwent Eglwys San Pedr yn cael ei chynnal trwy ymdrechion eglwys y plwyf a gwirfoddolwyr lleol. Os oes gennych berthnasau sydd wedi eu claddu yn y fynwent ac felly diddordeb mewn cynorthwyo i gynnal a chadw'r fynwent, siaradwch â staff Canolfan Treftadaeth y Byd neu ffoniwch 01495 742333. Gellir gweld cofnodion claddu Eglwys San Pedr yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon neu Amgueddfa Gymunedol Blaenafon.
Mawr yw ein diolch a'n cydnabyddiaeth o'r sefydliadau a'r unigolion canlynol am ddarparu delweddau hanesyddol a ddefnyddiwyd yn y llwybr hwn:
- Amgueddfa Gymunedol Blaenafon
- Maggie Beynon
- Margaret Burnell
- Francis Keen
- Pat Morgan
This website is optimised for portrait mobile devices. Please rotate your device or resize your browser.