5. John Griffith Williams
Cyrhaeddodd John Griffith Williams Flaenafon ym 1830 a chafodd ei siomi i ganfod "ffyrdd oedd yn anaddas i unrhyw gerbyd ... dim ond pum capel, pedwar siop, pum tafarn ac ychydig iawn o fythynnod [de-ddwyrain] y gwaith". Gwelodd Williams y cyfle i wella pethau a daeth yn ffigwr pwysig yn yr ardal leol. Sefydlodd Williams farchnad gyntaf y dref ym 1840 a bu'n ddylanwadol iawn yn cam i sefydlu Broad Street, prif stryd siopa'r dref. Ef hefyd sefydlodd neuadd y dref gyntaf, gwaith nwy a bragdy, yn ogystal â Gwesty'r Red Lion, y gorau, y gellir dadlau, yn y dref a oedd yn ehangu.
Ymfudodd rhai o blant J.G Williams o Gymru i Pensylvania yn UDA. Mae eu henwau ar y bedd. Yn wir, fe wnaeth llawer o bobl Blaenafon deithio o gwmpas y byd, gan gymryd eu sgiliau a'u diwylliant gyda nhw. Ewch yn ôl i brif giât yr eglwys a dilynwch y llwybr, drwy'r ffens, i'r dde, gan ei ddilyn i lawr tuag at yr heneb gwenithfaen binc, fawr.
This website is optimised for portrait mobile devices. Please rotate your device or resize your browser.