2. Samuel Hopkins

Dyma fedd yr haearn feistr Samuel Hopkins a gafodd ei gladdu gyda'i fodryb, Sarah Bissel. Tyfodd Samuel Hopkins i fyny yn Swydd Stafford a daeth yn bartner yng Ngwaith Haearn Blaenafon yn dilyn marwolaeth ei dad Thomas Hopkins ym 1793.

Ym 1799, adeiladodd Samuel blasty 'cyfforddus a choeth' iddo'i hun, sef The Great House. Roedd Samuel yn adnabod ei weithwyr yn ôl eu henwau, yn hyrwyddo addysg ac yn garedig i'r tlawd. Yn dilyn ei farwolaeth ym 1815, adeiladodd ei chwaer, Sarah Hopkins, Ysgol San Pedr (sydd bellach yn Ganolfan Treftadaeth y Byd), er cof amdano.

I ddarganfod beth ddigwyddodd nesaf, edrychwch am fedd arall gyda chaead haearn bwrw, yn agosach at fynedfa'r eglwys. Dyma fedd Thomas Hill II a'i ferch Jane.

Samuel Hopkins
Blaenavon World Heritage Site logo

This website is optimised for portrait mobile devices. Please rotate your device or resize your browser.