12. Beddau Rhyfel
Mae mynwent San Pedr yn cynnwys saith bedd rhyfel sy'n gysylltiedig â'r Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd. Edrychwch am y bedd rhyfel, sy'n dwyn enw Private Idris Jones.
Idris Jones
Ymunodd Private Idris Jones, o Broad Street, â Chyffinwyr De Cymru ym mis Mawrth 1916 a gwasanaethodd yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn anffodus, dioddefodd o nifer o broblemau meddygol yn ystod ei wasanaeth milwrol a dychwelodd i Brydain i wella. Ar ôl llawdriniaeth i drin llid y cylla yn Ysbyty Cyffredinol Nottingham, bu farw Idris Jones ar 3 Awst 1918, ychydig cyn diwedd y rhyfel. Dychwelwyd ei gorff i'w berthnasau a chladdwyd ef ym mynwent San Pedr.
Hefyd, wedi eu claddu yn y fynwent, mewn beddau heb eu marcio, mae cyn-filwyr gwrthdrawiadau cynharach, gan gynnwys Samuel Jones a oedd ym Mrwydr Waterloo ym 1815 a William Osborne a ymladdodd ym Mrwydr Rorke's Drift ym 1879.
Ewch yn ôl tuag at yr eglwys, ar hyd yr un llwybr. Wrth ddychwelyd i'r groesffordd, trowch i'r chwith a cherddwch i gefn yr eglwys.
This website is optimised for portrait mobile devices. Please rotate your device or resize your browser.