9. Damweiniau Diwydiannol

Ar hyd y llwybr hwn, cadwch lygad allan am y cerrig beddau ar y chwith. Eglwys San Pedr yw'r lle gorffwys olaf i gannoedd o bobl a gollodd eu bywydau mewn damweiniau ym myd diwydiannau Blaenafon. A allwch chi weld beddau pobl a laddwyd mewn damweiniau diwydiannol? Chwiliwch am garreg fedd George Williams, a gafodd ei ladd ym Mhwll Mawr ym 1908.

George Williams

Ar 11 Rhagfyr 1908, roedd shifft nos George Williams, 55 oed, newydd ddod i ben. Roedd ar fin dychwelyd i'r wyneb pan ddaeth dau gloddiwr, John Jones (21) a Nathaniel Brankley (34) i mewn i'r pwll i ddechrau eu llafur dyddiol, gan gludo goleuadau noeth yn ôl pob sôn. Heb yn wybod iddynt roedd casgliad o nwy, a daniwyd gan y fflam, gan achosi'r ffrwydrad. Cafodd y tri dyn eu lladd. Pedwar diwrnod yn ddiweddarach, mewn glaw trwm, cafodd y glowyr eu claddu. Heidiodd niferoedd mawr o'u cydweithwyr i'w beddau i ddangos eu parch i'r meirwon.

Gallai marwolaeth prif enillydd cyflog, yn ogystal â'r golled emosiynol enfawr, hefyd gael effaith ddinistriol ar incwm teulu. Cymerwch amser i edrych o gwmpas beddau rhai o'r rhai eraill a laddwyd mewn damweiniau. Mae pob carreg fedd yn adrodd stori bersonol o drasiedi a cholled.

George Williams
Blaenavon World Heritage Site logo

This website is optimised for portrait mobile devices. Please rotate your device or resize your browser.