3. Thomas Hill

Pan fu farw Samuel Hopkins ym 1815, daeth ei gefnder Thomas Hill II i Flaenafon i reoli'r gwaith. Buddsoddodd mewn gefail newydd yng Ngharn Ddyrys a datblygodd rwydwaith trawiadol o dramffyrdd i gysylltu Blaenafon i'r gamlas yn Llan-ffwyst. Mae'r llwybr hwn a elwir yn Dramffordd Hill bellach yn llwybr cerdded poblogaidd. Roedd Hill yn byw yn y ‘Tŷ Mawr’ gyda'i ferched ac roedd yn adnabyddus am gadw haid o gŵn hela.

Bu farw ym 1827, ag yntau ond yn 59 mlynedd oed. Bu farw ei ferch, Jane, dair blynedd yn ddiweddarach, yn 28 mlwydd oed, ac mae hithau wedi'i chladdu yn yr un bedd. 

Ewch yn ôl tuag at y prif lwybr ac edrychwch am un arall o'r beddau haearn bwrw, sef bedd Thomas Deakin.

Thomas Hill
Blaenavon World Heritage Site logo

This website is optimised for portrait mobile devices. Please rotate your device or resize your browser.