13.1. Beddau Diddorol Parhau

Teulu Caddick (#14 ar y map):

Ymfudodd teulu Caddick o Flaenafon i Hughesovka yn Rwsia yn ystod y 19eg ganrif, gan fynd â'u sgiliau gwneud haearn i ddyffryn Donetsk, lle'r oedd John Hughes o Ferthyr Tudful wedi sefydlu gwaith haearn.

Thomas Poston (#15 ar y map):

Gwasanaethodd Thomas Poston fel garddwr i Reolwr Cyffredinol Cwmni Blaenafon a sefydlodd Gymdeithas Arddwriaethol Blaenafon ym 1907. Bu'r Gymdeithas Arddwriaethol a'i sioe flodau flynyddol yn rhan o fywyd y dref ers dros ganrif. Mae tlws arian mawr i'w gweld yn Amgueddfa Gymunedol Blaenafon.

Bert a Beatrice Witchell (#16 ar y map):

Roedd Bert a Beatrice Witchell, yn siopwyr adnabyddus ym Mlaenafon, yn rhedeg busnes crydd yn Broad Street ar ddechrau'r 20fed ganrif.

Samuel Dankes (#17 ar y map):

Mae rhai o'r beddau hynaf i'w gweld yn y rhan hon o'r fynwent. Edrychwch am fedd Samuel Dankes, mowldiwr yn y gwaith haearn, a anwyd ym Madeley, Sir Amwythig - sy'n rhan o Safle Treftadaeth Byd Ceunant Ironbridge yn y byd modern sydd ohoni.

Beddau Iaith Gymraeg (#18 ar y map):

Cymraeg oedd y brif iaith ym Mlaenafon ar ddechrau'r 19eg ganrif. Yn wir, cafodd gwasanaethau'r eglwys yn San Pedr eu cynnal yn wreiddiol yn y Gymraeg a'r Saesneg ar daerineb yr haearn feistr Samuel Hopkins. Mae rhai o'r hen gerrig beddau yn y rhan hon o'r fynwent yn yr iaith frodorol.

Bedd Protheroe (#19 ar y map):

Cyn gorffen, edrychwch ar un bedd olaf. Bedd teulu Protheroe. Edrychwch ar nifer y plant a fu farw ac a gladdwyd yn y bedd hwnnw. Mae'n rhoi cyfrif digalon iawn o wir gost ddynol y Chwyldro Diwydiannol.

Interesting Graves
Blaenavon World Heritage Site logo

This website is optimised for portrait mobile devices. Please rotate your device or resize your browser.