8. John Paton

Dyma garreg fedd John Paton, a fu'n Gyfarwyddwr Cyffredinol Cwmni Haearn a Glo Blaenafon o 1863 i 1874. Addysgwyd John Paton ym Mhrifysgolion Glasgow a Chaeredin a gweithiodd mewn amryw o swyddi mewn gweithfeydd haearn yn Lloegr cyn dechrau ym Mlaenafon. Fel Rheolwr Cyffredinol, roedd Mr Paton yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y cwmni o ddydd i ddydd ar ran y cyfarwyddwyr. Bu'n byw yn Park House, sef cartref Rheolwyr Cyffredinol olynol Cwmni Blaenafon. Roedd yn ddyn poblogaidd ymhlith y gweithwyr; cefnogai elusennau lleol, rhyddid gwleidyddol, cymdeithasau cyfeillgar a chysylltiadau da rhwng y gweithwyr a'u cyflogwyr.

Dilynwch ôl eich traed a cherdded yn ôl i'r groesffordd. Dilynwch y llwybr sy'n gyfochrog â Chanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon a'r caffi uwchben.

John Paton
Blaenavon World Heritage Site logo

This website is optimised for portrait mobile devices. Please rotate your device or resize your browser.