4. Thomas Deakin
Roedd yr haearn feistri yn dibynnu ar weithwyr medrus i'w helpu i redeg y gwaith. Ymhlith y rhai mwyaf llwyddiannus o'r rhain oedd Thomas Deakin, a aned yn Sir Amwythig ym 1776. Dechreuodd Deakin weithio o dan y ddaear pan oedd yn blentyn ifanc, gan wynebu amodau gweithio llym. Teithiodd Deakin, gŵr ifanc hynod weithgar a deallus, o gwmpas yr ardaloedd mwyngloddio, gan ddysgu ystod o ddulliau mwyngloddio. Cyrhaeddodd Blaenafon ym 1796, yn 20 oed. Cymaint oedd yr argraff a greodd y gŵr ifanc hwn ar Samuel Hopkins, fe wnaeth ei benodi'n rheolwr ar y mwyngloddiau haearn. Arhosodd Deakin ym Mlaenafon, gan weithio hyd ei farwolaeth yn 75 mlwydd oed ym 1851.
Ar Feddargraff Deakin dywed:
“Beneath the rocks, I used to toil for bread, beneath this piece of rock I rest my weary head. Till rock and ages shall in chaos roll, on resurrection’s rock, I’ll rest my soul”
Rydym wedi gweld rhai o arwyr diwydiannol Blaenafon, ond rhan o stori'r dref yn unig ydynt. Gwnewch eich ffordd tuag at y gangell a chadw llygad allan am garreg fedd gwenithfaen binc, wedi'i farcio â chroes. Dyma fedd John Griffith Williams, un o ddynion busnes mwyaf enwog Blaenafon.
This website is optimised for portrait mobile devices. Please rotate your device or resize your browser.